Warren Gatland
Mae Warren Gatland wedi dweud ei fod yn cydymdeimlo â rhwystredigaeth y Gwyddelod yn dilyn buddugoliaeth Cymru yn Stadiwm y Mileniwm neithiwr.
Roedd Iwerddon yn anhapus ar ôl i Matthew Rees daflu llinell gyflym gyda phêl wahanol i’r un a gafodd ei gicio dros yr ystlys gan y maswr Jonathan Sexton.
Sylwodd y dyfarnwr ddim ac fe aeth y bêl i ddwylo’r mewnwr Mike Phillips a sgoriodd y cais fuddugol eiliadau yn ddiweddarach.
Ond dywedodd Warren Gatland fod ei dîm yn haeddu rywfaint o lwc – ac nad oedd yn golygu y byddai Iwerddon wedi ennill y gêm fel arall.
“Roedd y ddau dîm yn gyfartal iawn ac fe allai’r canlyniad fod wedi mynd yn naill ffordd neu’r llall,” meddai.
“Dechreuodd y gêm yn ofnadwy i ni ond fe wnaethon ni frwydro yn ôl i mewn iddi. Dw i’n gallu deall pam fod Iwerddon yn teimlo’n rhwystredig fod y cais wedi ei ganiatáu.
“Fe aeth y penderfyniad ein ffordd ni, ac rydyn ni wedi dioddef o ganlyniad i benderfyniadau gwael yn y gorffennol, a dw i ddim wedi cwyno bryd hynny.
“Pe bai’r dyfarnwr wedi gofyn am farn y TMO fydden ni ddim yn trafod y peth nawr, ond dyw hynny ddim o reidrwydd yn golygu y bydden ni wedi colli’r gêm.
“Dw i ddim yn malio, fe wnaethon ni ennill y gêm, a dyna ni.”
Cymru ‘yn dîm da’
Roedd Cymru wedi eu beirniadu yn hallt ar ôl colli yn erbyn Lloegr ar benwythnos agoriadol y gystadleuaeth.
Dywedodd Warren Gatland fod gemau Cymru a Lloegr ers hynny yn dangos nad oedd y crysau cochion yn dîm gwael wedi’r cwbwl.
“Roeddwn i wedi dweud ar ôl gêm Lloegr ei bod hi’n gêm anodd,” meddai.
“Fe wnaethon ni fethu ambell i gic at y pyst, ac roedd Craig Mitchell wedi derbyn cerdyn melyn na ddylai fod wedi ei dderbyn.
“Sgoriodd Lloegr tra’r oedd o bant o’r cae gyda cherdyn melyn ond roedd yr adroddiadau ar ôl y gêm yn dweud eu bod nhw’n wych a ni’n ofnadwy.
“Dw i ddim yn credu ein bod ni mor ddrwg ag yr oedd pobol yn ei ddweud. Rydyn ni wedi ennill yn yr Alban ac yr Eidal oddi cartref, ac wedi bod yn gystadleuol yn erbyn timoedd o hemisffer y de yn ogystal â gwledydd y Chwe Gwlad, ac wedi ennill eto heddiw.”