Cais Mike Phillips
Curodd Cymru’r Gwyddelod 19 – 13 gyda chais dadleuol iawn gan Mike Phillips.
Roedd Iwerddon yn anhapus iawn ar ôl i Matthew Rees daflu llinell gyflym gyda phêl wahanol i’r un a gafodd ei gicio dros yr ystlys gan y maswr Jonathan Sexton.
Mae hynny’n mynd yn groes i reol 19.2 y gamp. Sylwodd y dyfarnwr ddim ac fe garlamodd Phillips, oedd yn dathlu ei 50fed cap, i fyny’r cae a sgorio’r cais terfynol.
Dyma’r ail waith yn unig i Gymru faeddu Iwerddon yng Nghaerdydd er 1983.
Ond bu bron i Iwerddon ennill y gêm â’r symudiad olaf. Yn anffodus i’r Gwyddelod fe wnaeth Paddy Wallace lanast ohoni, gan fynd am y llinell yn hytrach na phasio i Keith Earls oedd ar ei ysgwydd, a dihangodd Cymru â’r fuddugoliaeth.
Roedd hi’n ddiwedd anniben i gêm sâl gan y ddau dîm.
James Hook oedd seren y gêm ar ôl cicio trosiad a tair cic gosb, a llwyddodd yr asgellwr Leigh Halfpenny gydag ymgais o bell.
Sgoriodd Brian O’Driscoll dros Iwerddon ym munudau cyntaf y gêm – gan ddod yn gyfartal â record y Sgotyn Ian Smith am nifer y ceisiau yn y gystadleuaeth, sef 24.
Fe giciodd Ronan O’Gara wyth pwynt i fynd ag ef heibio’r 1,000 pwynt mewn rygbi rhyngwladol.
Mae Cymru wedi ennill tair o’u pedair gêm ddiweddaraf ac fe fyddwn nhw’n mynd i Ffrainc yn llawn hyder ar ôl i’r Ffrancwyr gael eu maeddu 22-21 gan yr Eidal yn gynharach heddiw.
Bydd Iwerddon yn anelu at sbwylio dathliadau Lloegr, fydd yn gobeithio am gamp lawn yn Stadiwm Aviva, Dulyn, ddydd Sadwrn nesaf.
Mae gan Gymru siawns o ennill y bencampwriaeth o hyd, er eu bod nhw ymhell ar ei hol hi i Loegr o ran pwyntiau.