Ashley Williams
Derby 2 – 1 Abertawe
Colli oedd hanes yr Elyrch heddiw ar ôl i Ashley Williams roi’r bêl yn ei rwyd ei hun oddi cartref yn erbyn Derby.
Dyma’r tro cyntaf i Derby ennill gêm gartref ers mis Tachwedd, ac mae’n ymestyn rhediad Abertawe, oedd yn ail yn nhabl y Bencampwriaeth, i dri gêm heb fuddugoliaeth.
Roedd cefnogwyr y Rams wrth eu boddau pan geisiodd Williams daro’r bêl yn ôl i’r gôl-geidwad Dorus de Vries. Aeth i mewn i gefn y rhwyd yn lle.
Roedd hi’n brynhawn i’w anghofio i chwaraewr rhyngwladol Cymru, a darodd peniad i mewn i’r croesfar toc cyn diwedd y gêm.
Sgoriodd Steven Davies ail gôl Derby drwy beniad yn fuan ar ôl yr hanner, cyn i Abertawe daro yn ôl gyda gôl gan Darren Pratley ar 65 munud.
Ond daliodd Derby ymlaen i sicrhau eu trydydd buddigoliaeth mewn 19 gêm yn y Bencampwriaeth a rhoi hwb mawr i’w gobeithion o aros yn y gynghrair.
Dyma’r tro cyntaf i Abertawe golli yn erbyn Derby er 1986, a bydd rhaid iddyn nhw dynnu eu sanau i fyny os ydyn nhw am gystadlu am ddyrchafiad awtomatig i’r uwch gynghrair.