Yr Eidal 22 – 21 Ffrainc

Mae’r Eidal wedi maeddu Ffrainc yn y rygbi am y tro cyntaf yn hanes y Chwe Gwlad.

Ar ôl colli o drwch blewyn yn erbyn Iwerddon a Cymru yn Rhufain, enillodd yr Eidal o 22 – 21 yn erbyn y Ffrancwyr.

Y tro diwethaf i’r Eidal faeddu Ffrainc oedd 40 – 32 ym mis Mawrth 1997.

Fe aeth yr Eidal ar y blaen ar ddechrau’r gêm drwy gic gosb gan Mirco Bergamasco.

Ond sgoriodd Morgan Parra gic gosb a Vincent Clerc gais i wthio Ffrainc 8-3 ar y blaen. Ychwanegodd Parra ail gic gosb a throsi ei gais ei hun er mwyn lledu’r bwlch i 18-6.

Brwydrodd yr Eidal yn ôl gyda chais gan Andrea Masi a dwy gic arall gan Mirco Bergamasco er mwyn sicrhau buddugoliaeth hanesyddol.