Cwpan Rygbi'r Byd
Mae cyn-asgellwr Seland Newydd, Jonah Lomu, yn credu na fyddai’n syniad da symud gemau Cwpan Rygbi’r Byd o Christchurch yn dilyn y daeargryn fis diwethaf.
Bu farw 166 o bobl yn sgil y daeargryn ar 22 Chwefror ac mae sawl un ar goll o hyd.
Fe achosodd y trychineb ddifrod sylweddol i’r ddinas ar ynys ddeheuol Seland Newydd.
Mae yna bryderon ynglŷn â gallu’r ddinas i gynnal y gemau rygbi yn yr hydref.
Roedd Christchurch i fod i gynnal pum gêm grŵp a dwy gêm yn rownd yr wyth olaf, ond mae yna awgrymiadau y bydd y gemau yn cael eu symud y tu allan i Seland Newydd.
Ond dywedodd Jonah Lomu na fyddai’n croesawu penderfyniad o’r fath gan drefnwyr Cwpan Rygbi’r Byd.
“Mae Cwpan Rygbi’r Byd yn rhywbeth i’r bobol edrych ymlaen ato,” meddai Lomu.
“Rwy’n credu ei fod yn rhy gynnar i wneud penderfyniad eto.
“Rwy’n gobeithio na fyddwn nhw’n symud y gemau. Fe fyddwn ni’n cefnogi Christchurch beth bynnag fe fydd yn digwydd.”