Aaron Ramsey
Mae Aaron Ramsey wedi dweud ei fod yn targedu dychwelyd i chwarae i Gymru yn y gêm yn erbyn Lloegr.
Mae chwaraewr canol cae Arsenal yn credu y bydd tîm Gary Speed yn gallu cymryd mantais o’r awyrgylch yn Stadiwm y Mileniwm er mwyn sicrhau buddugoliaeth.
Fe fyddai Ramsey yn chwarae ei gêm gyntaf i Gymru ers torri ei goes yn erbyn Stoke ym mis Chwefror llynedd.
Dyw Cymru heb faeddu Lloegr ers 27 mlynedd, ac mae’r Saeson yn ffefrynnau ar gyfer y gêm ar 26 Mawrth.
Ond mae Ramsey yn credu y gallai Cymru ail-danio gobeithion y tîm rhyngwladol, ar ôl dechrau siomedig i’r ymgyrch ragbrofol.
Mae’r Cymro ‘nôl yn cystadlu am le yn nhîm Arsenal ar ôl cyfnod ar fenthyg gyda Chaerdydd, ac mae’n awyddus i chwarae i’r Gunners wedi absenoldeb o dros flwyddyn.
“Rwy’n awyddus i chwarae nawr. Rwy’n teimlo fy mod i’n barod,” meddai Ramsey wrth bapur y Western Mail. .
“Rydw i am gael cyfle i ddechrau gêm a dangos beth ydw i’n gallu ei wneud.
“Rwy’n gobeithio bod yn rhan o’r gêm yn erbyn Lloegr – mae’n gêm mae pob Cymro eisiau bod yn rhan ohono.
“Mae fel gêm ddarbi i ni ac fe allai unrhyw beth ddigwydd. Rwy’n gobeithio y byddwn ni ar ein gorau ar y diwrnod ac yn ennill y gêm.”