Mae amddiffynnwr Abertawe, Neil Taylor, wedi dweud fod angen i’r Elyrch anelu at ennill pob un gêm nes ddiwedd y tymor.

Mae tîm Brendan Rodgers yn ail yn nhabl y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, ond mae yna hanner dwsin o dimau eraill yn brwydro am le ymysg y safleoedd uchaf.

“Mae yna ddeg gêm yn weddill a’r targed yw ennill y deg,” meddai. ”Dw i ddim yn dweud ein bod ni mynd i gyflawni hynny – ond dyna’r nod,” meddai Neil Taylor.

“Er mai dim ond pwynt ydan ni wedi ei gael yn ystod y ddwy gêm ddiweddaraf, mae’r clybiau eraill wedi methu manteisio ac r’yn ni’n dal yn yr ail safle.

“Rydyn ni wedi bod yn lwcus ond bydd angen ennill gemau os ydyn ni am aros yno.  Fe fydd ambell i dîm yn siŵr o fynd ar rediad da rhwng nawr a diwedd y tymor. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n un o’r timau rheini.”

Fe fydd Abertawe yn gobeithio taro ‘nôl yn erbyn Derby yfory yn dilyn y siom o golli i Scunthorpe, a gêm gyfartal yn erbyn Watford nos Fawrth.

Dywedodd Neil Taylor bod y rheolwr, Brendan Rodgers, yn anhapus gyda’r canlyniad yn erbyn Watford.

“Fe gawson ni lond ceg gan y rheolwr ar ôl y gêm,” meddai Neil Taylor.

“Ond rwy’n deall ac roedden ni’n haeddu beth ddywedodd o.

“Arnom ni oedd y bai a bydd rhaid i ni wneud yn iawn am hynny ddydd Sadwrn yn erbyn Derby.”