Fe gododd tîm rygbi’r gynghrair Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf Gwpan Pencampwyr Ysgolion Prydain yn Richmond brynhawn ddoe ar ôl curo Ysgol Ramadeg Mirfield o Orllewin Swydd Efrog o 28-0.
Enillon nhw’r un gystadleuaeth ddwy flynedd yn ôl, a llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol y llynedd – eu hunig golled yn y gystadleuaeth ers tair blynedd.
Seren y gêm Harri Griffiths sgoriodd y cais cyntaf, a gafodd ei drosi gan Jac Lloyd.
Daeth cyfle i’r Saeson unioni’r sgôr, ond gollyngon nhw’r bêl cyn i’r Cymry gael cic gosb.
Aeth Iwan Jones drwy amddiffyn y Saeson i greu ail gais Glantaf, wrth i Rhodri Thomas groesi – a Jac Lloyd yn trosi unwaith eto.
Rhedodd Josh Atkinson i lawr yr ystlys am drydydd cais y Cymry ac ar ôl methu’r gic, roedden nhw ar y blaen o 16-0 ar yr hanner.
Fe wnaeth y Saeson basio’r bêl ymlaen yn y symudiad cyn croesi am gais, ac fe fu bron i gam-drafod arwain at gais arall i’r Cymry. Ond wrth barhau i ymosod, llwyddodd Josh Atkinson i groesi am ei ail gais, a’r trosiad yn dod unwaith eto oddi ar droed Jac Lloyd.
Daeth cais hwyr i Iwan Johnes yn yr eiliadau olaf, ac fe gafodd ei drosi unwaith eto gan Jac Lloyd.
Glantaf: Rhodri Thomas, Iwan Jones, Josh Atkinson, Iwan Johnes, Louie Rochfort Shugar, Gwylim Evans, Jac Lloyd, Harri Griffiths, Iwan McDougall, Tirion Bowen, Finn Lovett, Morgan Baos, Cai-Marcus Jemmett. Subs: Cai Killen, Osian Evans, Oli Meek, Gruff Lloyd.
Ceisiau: Griffiths (10), Thomas (23), Atkinson (25, 40), Johnes (47)
Goliau: Lloyd 4/5