Bydd y Gymraes Megan Jones yn chwarae yn rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd heno – dros Loegr.
Hi, fodd bynnag, yw’r Gymraes gyntaf i chwarae yn rownd derfynol Cwpan y Byd, wrth i Loegr herio Seland Newydd yn Belfast heno (7.45pm).
Mae hi’n efelychu Dorian West o Wrecsam, oedd yn aelod o garfan dynion Lloegr ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn 2003 – er nad oedd e wedi chwarae yn y rownd derfynol.
Hanes
Cafodd Megan Jones, sy’n 20 oed, ei geni yng Nghaerdydd a’i haddysgu yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.
Crwydriaid Morgannwg oedd ei thîm rygbi cyn iddi fynd i astudio Gwyddorau a Rheolaeth Chwaraeon yng Ngholeg Hartpury ac o’r fan honno, dechreuodd hi chwarae dros glwb Bryste.
Roedd hi’n eilydd ar gyfer tîm Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro y llynedd.
Sgoriodd hi gais pwysig i Loegr wrth iddyn nhw guro Ffrainc o 20-3 i gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd.