Cwpan PRO14 (Llun: Cynghrair Guinness PRO14)
Mae cynghrair y Guinness PRO12 wedi cadarnhau heddiw y byddan nhw’n newid eu henw i’r Guinness PRO14 wrth i ddau dîm o Dde Affrica ymuno â nhw.
Y clybiau newydd fydd yn chwarae yn y gynghrair yw’r Toyota Cheetahs a’r Southern Kings o Dde Affrica, ac fe fydd gemau cynta’r tymor yn dechrau ym mis Medi.
Fe fydd gemau’n cael eu cynnal cartref ac oddi cartref gyda chyfleoedd i’r timau deithio i hemisffer y de i chwarae.
Adrannau newydd
Yn ogystal, mae’r gynghrair wedi cadarnhau y byddan nhw’n cyflwyno dwy adran newydd, gyda’r timau’n cael eu rhannu fel a ganlyn:
Adran A – Munster, Gweilch, Glasgow Warriors, Gleision, Connacht, Zebre, Cheetahs.
Adran B – Scarlets, Leinster, Ulster, Caeredin, Benetton, Dreigiau, Kings.
Bydd y timau’n chwarae gemau darbi sy’n golygu 21 gêm y tymor, ac fe fydd enillwyr y ddwy adran yn sicrhau eu lle yn y rownd gynderfynol.
Bydd y timau sy’n gorffen yn ail ac yn drydydd yn chwarae gêm ail gyfle ar gyfer y ddau safle arall yn y rownd gynderfynol.
Bydd yr adrannau yn newid bob blwyddyn gan ddibynnu ar berfformiad yn ystod y tymor.
‘Pennod newydd’
Yn ôl Prif Weithredwr y PRO14, Martin Anayi, mae’r newid strwythur hwn yn “bennod newydd a chyffrous i’r Guinness PRO14 fel cynghrair rygbi byd-eang.”
“Mae ein clybiau, chwaraewyr a hyfforddwyr eisoes yn gyffrous am y cyfle i chwarae yn Ne Affrica o flaen cynulleidfa a stadiymau newydd ac i fentro’r profion newydd cyffrous,” ychwanegodd.