Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Mae Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, Hugh Morris wedi dweud ei fod e’n awyddus i weld mwy o Gymry yn y tîm – ond fod rhaid iddyn nhw fod yn deilwng o’u lle.
Dim ond tri Chymro oedd yn y tîm a drechodd Swydd Gaint yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast ddydd Sul – y batiwr Aneurin Donald, y troellwr Andrew Salter a’r bowliwr cyflym Lukas Carey.
Roedd y troellwr llaw chwith Owen Morgan a’r chwaraewr amryddawn Connor Brown yn y garfan, ond doedden nhw ddim wedi’u cynnwys yn y tîm.
Mae’r chwaraewr amryddawn David Lloyd a’r batiwr Kiran Carlson eisoes wedi creu argraff fel aelodau o’r tîm cyntaf, ond mae’r ddau wedi’u hanafu ar hyn o bryd.
Ond mae’r garfan yn frith o chwaraewyr o dramor, gan gynnwys chwech o Dde Affrica a nifer o Awstralia, yr Iseldiroedd a Lloegr.
Y tymor diwethaf
Roedd nifer o’r Cymry wedi chwarae rhan flaenllaw yn y tîm y tymor diwethaf, ac roedd arwyddion fod Morgannwg ar eu ffordd i efelychu tîm y 1990au a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n Gymry neu wedi’u magu yng Nghymru.
Yn 2016, creodd Owen Morgan hanes drwy daro 103 yn erbyn Swydd Gaerwrangon ar gae New Road yn y Bencampwriaeth – y noswyliwr cyntaf i daro canred i Forgannwg.
Cipiodd Lukas Carey saith wiced yn ei gêm gyntaf i’r sir yn erbyn Swydd Northampton yn Abertawe y llynedd, ac fe gipiodd Kiran Carlson, y troellwr achlysurol, bum wiced yn erbyn Swydd Northampton yn ei gêm gyntaf i’r sir, a tharo canred yn erbyn Swydd Essex – y chwaraewr ieuengaf erioed i daro canred i Forgannwg.
Ond yn dilyn perfformiadau siomedig yn y Bencampwriaeth fel tîm y tymor diwethaf, ac mewn ymgais i gryfhau’r tîm undydd ymhellach, mae Morgannwg wedi arwyddo’r batiwr David Miller a’r bowliwr Marchant de Lange – a’r ddau yn dod o Dde Affrica.
Mae hynny, yn anochel, yn golygu bod y Cymry prin yn cystadlu am nifer llai o lefydd yn y tîm.
Y dyfodol
Serch hynny, mae prif weithredwr Morgannwg, Hugh Morris wedi ategu ei ddymuniad i weld mwy o Gymry yn y tîm yn y pen draw.
“Ein huchelgais yn y tymor hir yw cael cynifer o chwaraewyr lleol â phosib yn y tîm.
“Ond rhaid iddyn nhw fod yn ddigon da i fod yn deilwng o’u lle yn y tîm.
“Rhaid cael cydbwysedd. Ry’n ni’n chwarae gêm broffesiynol a rhaid i ni fod yn gystadleuol.
“Os edrychwch chi ar rai o’n gwrthwynebwyr ni, dyw eu tîm nhw ddim yn wahanol iawn i’n tîm ni o ran eu gwneuthuriad.
“Mae rhai o’r talentau sydd gyda ni’n gyffrous ac yn enwedig yn y Bencampwriaeth, mae’r bois ifainc Kiran Carlson, David Lloyd, Aneurin Donald, Owen Morgan, Andrew Salter a Lukas Carey wedi chwarae i ni’r tymor hwn.
“Ymhen dwy neu dair blynedd, o ystyried y profiad fydd ganddyn nhw, bydd gyda ni gnewyllyn o Gymry.”