George North (Llun: Joe Giddens/PA)
Wrth i’r Llewod herio’r Crusaders yn Christchurch yn Canterbury y bore ma, mae’r Cymro George North wedi galw ar ei dîm i wella’u perfformiadau cyn dechrau’r gyfres yn erbyn Seland Newydd.
Daw’r alwad gan yr asgellwr ar ôl i’r prif hyfforddwr Warren Gatland alw am sglein ar y perfformiadau.
A chyfrifoldeb y chwaraewyr yw dechrau paratoi ar unwaith ar gyfer y profion, yn ôl George North.
“Dw i ddim yn credu bod Warren wedi herio unrhyw un yn unigol, ond i ni fel carfan.
“Am wn i, os ydych chi’n dod i Seland Newydd, ry’ch chi’n gwybod y bydd tipyn o X-factor yn dod yn ôl atoch chi a dw i’n credu ei fod e wedi cyfleu hynny wrth y garfan a rhaid i ni wneud hynny ein hunain.
“Ry’n ni’n amlwg yn gwybod fod yr her yn anferth a’r gemau’n dynn.”
George North yn dechrau
Fe ddechreuodd George North y gêm y bore ma, y tro cyntaf iddo ddechrau gêm ar y daith.
Mae Canterbury ar frig y Super Rugby ar ôl ennill pob un o’u 14 gêm.
Ac fe ddywedodd George North ei fod yn edrych ymlaen at gael dylanwad ar y daith.
“Y Llewod yw’r uchafbwynt yng ngyrfa unrhyw un ac felly mae mynd ar daith a pheidio ag ymddangos yn y ddwy gêm gyntaf yn rhwystredig.
“Fel unrhyw chwaraewr rygbi, dw i jyst eisiau chwarae. Ond dw i wedi cael fy nghyfle nawr a dw i’n edrych ymlaen at y cyfle hwnnw.”
Un Cymro sy’n colli’r gêm yw’r blaenasgellwr a chapten y garfan, Sam Warburton, sydd wedi anafu ei ffêr.
Ond mae disgwyl iddo ddychwelyd mewn da bryd ar gyfer y profion.