Mae Bangladesh wedi cipio buddugoliaeth annisgwyl dros Seland Newydd yn Nhlws Pencampwyr yr ICC yng Nghaerdydd, wrth i Shakib Al Hasan a Mahmudullah dorri’r record am y bartneriaeth fwyaf yn hanes y tîm mewn gemau unydd.

Eu partneriaeth o 224 yw’r ail fwyaf erioed yn hanes Tlws Pencampwyr yr ICC.

Roedden nhw’n 33-4 pan ddaeth y ddau at ei gilydd yn y canol, ac yn wynebu colled sylweddol ar ôl i Seland Newydd osod nod o 266 am y fuddugoliaeth. Ond roedd eu partneriaeth o 224 yn ddigon i ddod â nhw o fewn trwch blewyn i’r fuddugoliaeth cyn i Al Hasan gael ei fowlio gan Trent Boult am 114.

Roedd Mahmudullah (102 heb fod allan) yno ar y diwedd i ddathlu’r fuddugoliaeth ar ôl cyrraedd ei gant, ac roedd Bangladesh yn fuddugol o bum wiced gydag 16 o belenni’n weddill.

Manylion

Collodd Seland Newydd chwe wiced am 50 o rediadau wrth iddyn nhw orffen eu batiad ar 265-8, a Mossadek Hossain wedi cipio tair wiced am 13 mewn tair pelawd yn ystod cyfnod o bwysau.

Dechreuodd y batwyr yn gadarn ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio’n gyntaf yn dilyn cyfnod o law yn y bore. Daeth Martin Guptill a Luke Ronchi i’r llain yn llawn hyder, ac roedden nhw wedi cyrraedd 46-0 yn eu saith pelawd cyntaf.

Ond tarodd Bangladesh yn ôl oddi ar belen gynta’r wythfed pelawd, wrth i Ronchi fynd am ergyd fawr ar ochr y goes, a chanfod dwylo diogel Mustafizur Rahman oddi ar fowlio Taskin Ahmed am 16.

Ar ôl cyfnod o bwysau a bowlio cywir gan Bangladesh, daeth ail wiced iddyn nhw yn y drydedd pelawd ar ddeg, wrth i Rubel Hossain ddarganfod coes Martin Guptill o flaen y wiced am 33, a Seland Newydd yn 69-2.

Ond fe lwyddodd y capten Kane Williamson a Ross Taylor i roi Seland Newydd ar y trywydd iawn unwaith eto wrth iddyn nhw adeiladu partneriaeth o hanner cant am y drydedd wiced. Cyrhaeddodd Williamson ei hanner canred wrth i’w dîm gyrraedd 134-2 hanner ffordd drwy eu batiad.

Daeth partneriaeth o 83 rhwng Williamson a Taylor i ben pan gafodd y capten ei redeg allan mewn modd cywilyddus wrth i’r ddau fatiwr anelu am yr un pen o’r llain, ac roedd Seland Newydd yn 152-3 ar ôl 30 pelawd. Aeth Taylor ymlaen i sgorio 63 cyn cael ei ddal dros ei ysgwydd ar ochr y goes gan Mustafizur Rahman oddi ar fowlio Taskin Ahmed, a Seland Newydd yn 201-4. Dim ond 27 ychwanegodd Neil Broom a Jimmy Neesham cyn colli pumed wiced, wrth i Broom gam-ergydio i’r awyr ac i ddwylo Tamim Iqbal ar ymyl y cylch oddi ar fowlio Mossadek Hossain, a gipiodd ei ail wiced o fewn tair pelen i gyfyngu Seland Newydd i 229-6 ym mhelawd rhif 44.

Roedd rhagor o ddiflastod i ddod i Seland Newydd, wrth i Jimmy Neesham gael ei stympio gan Mushfiqur Rahim oddi ar fowlio Mossadek Hossain am 23 i adael Seland Newydd yn 240-7 ar ôl 46 pelawd. Collodd Seland Newydd eu hwythfed wiced yn y belawd olaf ond un wrth i Adam Milne gael ei fowlio y tu ôl i’w goesau gan Mustafizur Rahman am saith, a’i dîm yn 252-8.

Gorffennodd Seland Newydd ar 265-8, a chymerodd hi ddwy belen yn unig iddyn nhw gipio wiced gyntaf Bangladesh, wrth i Tim Southee ddarganfod coes Tamim Iqbal o flaen y wiced. Cwympodd ail wiced pan ergydiodd Sabbir Rahman i ddwylo’r wicedwr Luke Ronchi i roi ail wiced i Southee, a Bangladesh yn 10-2. Roedden nhw wedi llwyddo i gyrraedd 24-3 erbyn diwedd y cyfnod clatsio cyntaf – Awstralia yw’r unig dîm arall yn y gystadleuaeth sydd wedi colli tair wiced yn y cyfnod clatsio cyntaf, a hynny hefyd yn erbyn Seland Newydd.

Daeth pedwaredd wiced i Seland Newydd yn y deuddegfed pelawd, wrth i belen gyflym a syth gan Adam Milne wasgaru ffyn Mushfiqur Rahim, ac yntau wedi sgorio 14, a’i dîm yn 33-4. Adeiladodd Mohammed Mahmudullah a Shakib Al Hasan bartneriaeth sy’n torri record Bangladesh ar gyfer unrhyw wiced mewn gêm undydd ac erbyn yr adeg pan oedd wyth pelawd yn weddill, roedden nhw wedi cwtogi’r gofynion i un rhediad y belen.

Roedd hynny wedi lleihau’r pwysau fel bod modd i’r ddau ddechrau clatsio rywfaint tua’r diwedd, ac fe gyrhaeddodd Shakib Al Hasan ei ganred gyda chwech anferth dros ei ben i gyfeiriad afon Taf. Ond fe gafodd ei fowlio am 114 gan Trent Boult i ddod â batiad o 115 o belenni a phartneriaeth o 224 gyda Mahmudullah i ben, ar ôl taro un chwech ac 11 pedwar.

Bydd Bangladesh nawr yn gobeithio bod Lloegr yn curo Awstralia fory er mwyn bod â rhywfaint o obaith o hyd o gyrraedd y rownd gyn-derfynol.