Mae’r Scarlets a Munster wedi enwi timau heb unrhyw newidiadau ar gyfer gêm derfynol cystadleuaeth y Pro12 yn Stadiwm Aviva, Dulyn prynhawn heddiw.

Bydd asgellwr y Scarlets, Steff Evans, yn rhydd i chwarae ar ôl i banel disgyblaethol ddiddymu  carden goch a dderbyniodd yn ystod gêm gynderfynol  â Leinster.

Yr wythwr John Barclay fydd unwaith eto yn capteinio’r tîm yn ystod absenoldeb Ken Owen a dyma fydd 150fed ymddangosiad Gareth Davies.

Bydd Liam Williams yn dechrau ar yr asgell wrth iddo wynebu be all fod ei gêm olaf i’r Scarlets cyn ymuno â’r Saracens.

Fe wnaeth Munster guro’r Scarlets 23-13 yn ystod penwythnos gyntaf y Pro12 ond llwyddodd Bois y Sosban i ddial ym mis Chwefror gan ennill 30-21.

Scarlets: Johnny McNicholl; Liam Williams, Jonathan Davies, Scott Williams, Steffan Evans; Rhys Patchell, Gareth Davies; John Barclay (capten), James Davies, Aaron Shingler, Tadhg Beirne, Lewis Rawlins, Samson Lee, Ryan Elias, Rob Evans

Ar y Fainc: Emyr Phillips, Wyn Jones, Werner Kruger, David Bulbring, Will Boyde, Jonathan Evans, Hadleigh Parkes, DTH Van der Merwe

Munster: Simon Zebo; Andrew Conway, Francis Saili, Rory Scannell, Keith Earls; Tyler Bleyendaal, Conor Murray; CJ Stander, Tommy O’Donnell, Peter O’Mahony (capten), Billy Holland, Donnacha Ryan, John Ryan, Niall Scannell, Dave Kilcoyne

Ar y Fainc: Rhys Marshall, Brian Scott, Stephen Archer, Jean Deysel, Jack O’Donoghue, Duncan Williams, Ian Keatley, Jaco Taute

Dyfarnwr: Nigel Owens