Mae’r Seintiau Newydd wedi cytuno i ryddhau Craig Harrison o’i gytundeb wrth  iddo gymryd drosodd yr awenau fel rheolwr tîm cyntaf Hartlepool ar unwaith.

Mae Harrison yn hanu o Ogledd Ddwyrain Lloegr, ac ef yw rheolwr mwyaf llwyddiannus y Seintiau erioed. Wedi bod yn Groesoswallt ers pum mlynedd, mae’r clwb wedi ennill chwe pencampwriaeth Uwchgynghrair Cymru, a chwpan Cymru pedair gwaith heb sôn am gwpan gynghrair Cymru tair gwaith.

“Yn bersonol rwyf eisiau diolch  i Craig am yr holl lwyddiant mae wedi dod i’r clwb dros y pum mlynedd mae wedi bod â ni, ac rwy’n dymuno pob lwc iddo’n Hartlepool”, meddai cadeirydd y Seintiau, Mike Harris.

Yn y cyfnod dros dro bydd Scott Ruscoe yn symud o’i swydd cynorthwyydd i reoli’r tîm gyntaf a fydd Steve Evans yn cynorthwyo.

Dywedodd caderwraig Hartlepool, Pam Duxbury bod y Pools wedi derbyn dros 50 o geisiadau am y swydd ac y bydd yn dipyn o her i gael Hartlepool yn ôl i’r gynghrair pêl droed o’r gyngres.