Warren Gatland
Mae’r Provincial Barbarians wedi cadarnhau y bydd mab Warren Gatland yn rhan o’r tîm fydd yn chwarae yn erbyn y Llewod yr wythnos nesaf.

Bydd y maswr, Bryn Gatland, 21, yn wynebu tîm ei dad yn Whangarei yng ngêm gyntaf y Llewod wrth iddyn nhw ddechrau taith chwe wythnos o hyd.

Wrth siarad â Sportsmail ym mis Hydref dywedodd Bryn Gatland: “Wnes i ofyn i fy nhad: ‘wyt ti’n mynd i dargedu fi?’ a dywedodd e ‘wrth gwrs’. Ry’ ni wedi jocian am y peth.”

Chwaraewyr lled-broffesiynol rhanbarthol yw aelodau’r Provincial Barbarians ar y cyfan, er bod yna ambell aelod o dimoedd cystadleuaeth Super Rugby yn y garfan.

Bu’n rhaid i hyfforddwr y Provincial Barbarians, Clayton McMillan newid ei garfan ychydig wedi i chwe chwaraewr dynnu allan oherwydd ymrwymiadau â Super Rugby.