George North (Llun: Undeb Rygbi Cymru)
Fe fydd yr asgellwr, George North, yn ôl yn nhîm Cymru i herio’r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ym Murrayfield ddydd Sadwrn.

Mae e wedi gwella o anaf i’w goes oedd wedi ei gadw e allan o’r gêm yn erbyn Lloegr, ac mae hynny’n golygu bod Alex Cuthbert yn dychwelyd i’r fainc.

Yr un yw tîm Cymru fel arall, gydag un newid ymhlith yr eilyddion, wrth i’r clo Luke Charteris gael ei gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth.

Roedd e allan ar ddechrau’r bencampwriaeth gan ei fod e wedi torri ei law, ond mae e’n holliach erbyn hyn ac yn cymryd lle Cory Hill ar y fainc.

Wrth i Gymru deithio i’r Alban, byddan nhw’n anelu am ddegfed buddugoliaeth o’r bron dros eu gwrthwynebwyr, a phedwaredd buddugoliaeth o’r bron ym Murrayfield.

Daeth eu colled ddiwethaf yn 2007.

Tîm Cymru: L Halfpenny, G North, J Davies, S Williams, L Williams, D Biggar, R Webb; R Evans, K Owens, T Francis, J Ball, AW Jones (capten), S Warburton, J Tipuric, R Moriarty

Eilyddion: S Baldwin, N Smith, S Lee, L Charteris, T Faletau, G Davies, S Davies, J Roberts