Yn dilyn trafodaethau gyda rheolwr tîm gyntaf a chyfarwyddwr pêl-droed Met Caerdydd, mae Dr Christian Edwards wedi cyhoeddi’n swyddogol ei fod am newid ei rôl a bod yn gynorthwy-ydd i’r tîm cyntaf.

Mae Dr Wayne Allison wedi’i ddyrchafu i rôl rheolwr y tîm cyntaf.

Mae  Christian Edwards yn pwysleisio bod dod o hyd i gydbwysedd rhwng ei waith yn y brifysgol ac ar y cae yn anodd. Mi fydd yn aros yn ei rôl yn Gyfarwyddwr Pêl-droed ac yn helpu ar ddiwrnod gemau.

“Mae’n llwybr naturiol i’r clwb,” meddai. “Mae Wayne wedi bod yn wych ers ymuno â ni, ac mae’n deall fy safle o fewn i’r brifysgol. Er hynny, nid fi a Wayne ydi’r clwb, mae i’m amdanaf i a Wayne, mae am y chwaraewyr a’i gwella nhw, y ffocws i ni ydi’r gêm nesa sef Y Bala (nos Wener) a gweddill y gemau sydd ar ôl.”

Edrych ymlaen at yr her

Cafodd Wayne Allison yrfa lwyddiannus yn sgorio bron i ddau gant o goliau gan chwarae i wyth clwb mewn gyrfa o ugain mlynedd, ei llysenw oedd y ‘ Chief’ ac mae Met yn gobeithio bydd ei wybodaeth yn gymorth i’r garfan.

Mae wedi bod yn hyfforddi es sawl blwyddyn ac yn edrych ymlaen am yr her.

“Rwy’n edrych ymlaen at gamu i esgidiau Christian,” meddai. “Dw i’n ddeall ei sefyllfa yn y brifysgol. Dw i wedi bod o gwmpas y garfan ers sbel, a chario ymlaen efo’r un cynlluniau fydda’ i yn y dyfodol, gan barhau efo’r gwaith da sydd wedi’i wneud hyn yn hyn.”