Bydd dau dîm o Gynghrair Huws Gray yn brwydro am le yn rownd gyn-derfynol Cwpan Cymru brynhawn Sadwrn (Chwefror 25) ar Gae’r Mount, Llanfair Caereinion.
Mae Llanfair gartref ddydd Sadwrn yn erbyn Caernarfon, ac mae Cadeirydd y clwb, Huw Ellis, yn ffyddiog y bydd yn fantais.
“Roedd y gêm yn erbyn Derwyddon Cefn yn wych yn y rownd flaenorol, canlyniad a hanner!” meddai wrth golwg360. “Roedd wedi glawio’n drwm a siwtiodd o ni i’r dim.
“Cafodd un o’i chwaraewyr nhw gerdyn coch, mi sgoriodd ni cyn hanner amser, oedd yn wych, oedden o dan bwysau ond wnaethon chwarae’n dda a dal allan – teimlad arbennig i guro tîm o’r Uwch Gynghrair.
“Mae Caernarfon yn dîm da, ar eu diwrnod mi ddylai nhw guro ni, eto rydan wedi curo nhw un waith tymor yma’n barod ar yr Oval 2-4. Rydan yn edrych ymlaen at gael nhw yma, bydd y ‘Cofi army’ yma yn eu cannoedd – roedden nhw’n wych tymor diwethaf, creu awyrgylch a chanu trwy’r gêm.
“Ond hogiau lleol sydd ganddon ni – i gyd yn brwydro i’r clwb – ac rydan ni i gyd yn gwybod bod y gêm hon yn gyfle da i dîm o’r gynghrair gyrraedd y rownd gyn-derfynol.
“Rydan ni fel clwb yn benderfynol o aros yng Nghynghrair Huws Gray, dyna beth yw’r flaenoriaeth. Rydan ni wrth ein boddau gyda chlybiau mawr yn ymweld â’r pentref. Rydan ni wedi buddsoddi £25,000 ar y cae yn barod, ac mae cynlluniau i roi 150 o seddi ychwanegol yn y brif eisteddle.
Yn anffodus, na fyddai yn y gêm – cynllunio ‘n wael – wedi trefnu rhywbeth â’r teulu misoedd y nôl, mi fydda’ i’n cadw golwg ar drydar y clwb yn ystod y gêm.”
Caernarfon
Mae’r gwrthwynebwyr o Gaernarfon yn ail yn y gynghrair ac maen nhw’n gobeithio bydd diweddglo da i’r tymor ar ôl y siom o beidio cael dyrchafiad tymor diwethaf. Mae is rheolwr y Cofis Richard ‘Fish Davies ar ei dymor gyntaf â’r clwb.
Ymunodd ‘Fish’ o Benrhyndeudraeth ar ôl cyfnod llwyddiannus yn rheolwr. “Roeddwn yn edrych am her newydd a gefais alwad gan y rheolwr Iwan Williams pe bai diddordeb i ymuno â’i dîm hyfforddi,” meddai.
“Roedd yn gynnig nad o’n i’n gallu ei wrthod. O’n i’nn nerfu i ddechrau, achos oedd o’n gam mawr, ond oedd pawb yn y clwb yn groesawus ac yn fy helpu i deimlo’n gartrefol. Yn sicr ar y cae mae dipyn o bwysau yn enwedig ar ôl gorffen yn gyntaf tymor diwethaf.
“Y nod dechrau’r tymor oedd ennill y gynghrair eto a chael rhediad yn y cwpanau, ond mae wedi bod yn dymor rhwystredig – eto mae’n rhaid rhoi parch i Brestatyn, maen nhw wedi bod yn ben ac ysgwydd yn well na phawb.
“Mae’r gêm yn Llanfair yn gêm enfawr i’r clwb, posib un o’r mwyaf erioed, ac mae gennyn ni bwynt i brofi ar ôl i Lanfair guro ni yn gynharach yn y tymor. A gydag o leiaf 200 o’r Cofis draw yn sicr mi fyddan fel y deuddegfed dyn. “
Gyda rhediad gwych yn y gwpan hyd rŵan ac wedi trechu dau dîm o’r uwchgynghrair mi fyddai’n dipyn o siom i’r Cofis fynd allan rŵan.
“Roedd y gemau yn erbyn Caerfyrddin a Rhyl yn byth cofiadwy, yn enwedig gêm Rhyl, un o’r gemau mai rhywun yn falch o fod yn rhan – eto i ni fel tîm rheoli nad oedd yn dda i’r nerfau.”
Mae Richard yn 31 oed ac yn hanu o Borthmadog, “Ar hyn o bryd, rwyf yn y broses o gwblhau fy nhrwydded B drwy Gymdeithas Bêl Droed Cymru ac yn gobeithio cael y cyfle i gwblhau fy nhrwydded A yn y blynyddoedd nesaf a symud i fyny i’r Uwchgynghrair gyda Chaernarfon.”