Jess Kavanagh-Williams (Llun: URC)
Roedd teulu balch iawn ym Mlaenau Ffestiniog yn ddiweddar wrth i ferch o’r dre’ ennill ei chap gyntaf i dîm Rygbi Merched Cymru yn Rhufain.

Ac er mai dim ond am ddeng munud ola’r gêm y bu Jess Kavanagh-Williams ar y maes, roedd hi wedi cyflawni breuddwyd.

Pêl-droed oedd ei gêm pan yn iau, ac fe gynrychiolodd dîm merched Pwllheli, Gogledd Cymru a Chymru o dan 16, ond mi benderfynodd newid i’r bêl hirgron gan chwarae i Fro Ffestiniog, Dolgellau a Chaernarfon.

Mae hefyd wedi dhwarae dau dymor yn gemau 7evens, ac wedi bod i Amsterdam, Rwsia, Dubai, Iwerddon a Ffrainc.

Mae nawr yn cynrychioli’r Scarlets, ar ôl cael ei sbotio yn chwarae i Ddolgellau yn 2011. Yn anffodus, yn dilyn anaf i’w phen-glin, fe fu’n methu chwarae am ddwy flynedd… ond mae hi’n ôl erbyn hyn.

Safon uchel

“Mae’r safon yn uchel yn y garfan,” meddai Jess wrth golwg360, “ac roedd yn rhaid i fi fod ar fy ngorau i greu argraff ar yr hyfforddwyr.

“O’n i mor falch o gael fy newis, ac roedd sefyll yn y stadiwm yn bloeddio’r Anthem Genedlaethol yn fraint ac yn brofiad llawn emosiwn… ond roedd rhaid bod yn broffesiynol a chanolbwyntio.

“Do’n i ddim yn meddwl y baswn i’n cael mynd ar y cae, ond dywedodd y tîm hyfforddi wrtha i gynhesu… ac mi o’n i mor nerfus ac isio mynd ar y cae a chreu argraff.”

Dysgu plant 

Yn ei swydd o ddydd i ddydd, mae Jess Kavanagh-Williams yn aelod o dîm ‘Chwaraeon am Oes’ yn ysgolion uwchradd Ardudwy (Harlech) ac Eifionydd (Porthmadog). Mae hi hefyd yn gyfrifol am yr ysgolion cynradd yn y ddwy ardal.

“Mae  hyn ar adegau yn waith caled i gael y cydbwysedd yn iawn rhwng ymarfer a gweithio,” meddai, “ond mae’n werth o, yn enwedig pan gefais y cyfle i chwarae o flaen dros 4,000 o gefnogwyr yng Nghaerdydd yn erbyn Lloegr dydd Sadwrn diwethaf.

“Oedd hi’n bechod mawr am ganlyniad a sgôr y gêm (colli  0-63) ond does dim allwn ni wneud yn erbyn tîm o safon fel Lloegr. Does dim dwywaith amdani, bydden y nôl yn gryfach fel tîm ar ôl y penwythnos…

“Felly, yn ôl i ymarfer fel carfan, a chanolbwyntio ar yr Alban nos Wener, Chwefror 24!”