Capten yr Eidal, Sergio Parisse (Llun: PA)
Fe fydd y frwydr yn safle’r wythwr rhwng Sergio Parisse a Ross Moriarty yn un o brif atyniadau gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad rhwng yr Eidal a Chymru yn Rhufain y prynhawn yma.
Mae lle i gredu bod paratoadau Cymru wedi canolbwyntio ar gapten yr Eidalwyr, ac mae Ross Moriarty yn cyfaddef fod y garfan wedi “dewis Parisse” fel bod unigolyn yn ei ddynwared yn ystod sesiynau hyfforddi er mwyn paratoi tactegau o’i gwmpas e.
Mae Cymru wedi paratoi dadansoddiad o’i sgiliau, yn ôl Ross Moriarty.
Fe fydd Sergio Parisse yn ennill cap rhif 122 yn y Stadio Olimpico, tra bod y Cymro yntau’n dechrau gêm am y tro cyntaf yn y Chwe Gwlad.
Daeth ei unig gap arall yn y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidalwyr yng Nghaerdydd y tymor diwethaf, ac mae’n edrych ymlaen at herio Sergio Parisse unwaith eto.
Dywedodd Ross Moriarty: “Fe wnes i chwarae yn ei erbyn e yn y Chwe Gwlad diwethaf pan ddes i oddi ar y fainc, ac roedd yn brofiad gwych cael chwarae mewn gêm mor fawr.
“Mae e wedi bod o gwmpas am sbel, gan chwarae dros yr Eidal yn ifanc ac mae ganddo fe dipyn o gapiau a phrofiad.
“Pan o’n i’n gwylio’r Chwe Gwlad, roedd e bob amser yn un o’r chwaraewyr oedd yn sefyll allan i’r Eidal, ac allwch chi ddim gwadu’r ffaith ei fod e’n chwaraewr o safon uchel.
“Dw i’n edrych ymlaen at yr her.”
Cymru v Lloegr
Mae Ross Moriarty yn dechrau’r gêm heddiw gan wybod y gallai golli ei le yr wythnos nesaf wrth i Taulupe Faletau geisio dychwelyd ar ôl anaf i’w ben-glin.
Mae e eisoes wedi ennill 12 cap, a fe yw’r trydydd aelod o’i deulu i chwarae dros Gymru. Mae’n fab i Paul Moriarty ac yn nai i Richard Moriarty.
Ychwanegodd: “Dw i wedi cael sawl cyfle dros y tymor a hanner diwethaf, a dw i’n mwynhau.
“Dw i’n teimlo’n gyfforddus yn y tîm a’r garfan. Mae tipyn o gystadleuaeth yn y rheng ôl, ac mae’n fy ngwneud i’n well chwaraewr.”