Caerloyw 24–13 Dreigiau

Colli fu hanes y Dreigiau wrth iddynt wneud y daith fer i Kingsholm i wynebu Caerloyw yn y Cwpan Eingl-Gymreig brynhawn Sadwrn.

Er i Tom Prydie gicio’r Dreigiau dri phwynt ar y blaen wedi chwarter cyntaf di sgôr, Caerloyw a oedd ar y blaen wrth droi diolch i gais Cameron Orr a throsiad Lloyd Evans.

Ymestynnodd Henry Trinder y fantais gydag ail gais y tîm cartref yn gynnar yn yr ail gyfnod cyn i Evans ychwanegu trosiad a chic gosb.

Rhoddodd cais Matthew Screech lygedyn o obaith i’r Dreigiau wedi hynny ond croesodd Ben Vellacott i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Saeson.

Roedd digon o amser ar ôl i Screech groesi am ei ail ef ac ail ei dîm ond cais cysur yn unig a oedd hwnnw wrth i’w dîm golli, 24-13.

.

Caerloyw

Ceisiau: Cameron Orr 38’, Henry Trinder 44’, Ben Vellacott 67’

Trosiadau: Lloyd Evans 40’, 46’, 69’

Cic Gosb: Lloyd Evans 52’

.

Deigiau

Ceisiau: Matthew Screech 54’ 78’

Cic Gosb: Tom Prydie 26’