Gleision 38–53 Caerwrangon

Cafwyd deuddeg cais ar Barc yr Arfau wrth i Gaerwrangon guro’r Gleision yn y Cwpan Eingl-Gymreig brynhawn Sadwrn.

Roedd yr ymwelwyr wedi sicrhau’r pwynt bonws yn yr hanner awr cyntaf diolch i geisiau Josh Adams (2), Val Rapava Ruskin a Sam Lewis.

Ac er i Cameron Dolan a Harri Millard groesi i’r Gleision yn y deugain munud cyntaf hefyd reodd gan Gaerwrangon fantais iach wedi i Wynand Olivier ychwanegu pumed cais yr ymwelwyr.

Y Gleision a Tom Williams a gafodd gais cyntaf yr ail hanner ond ymatebodd Caerwrangon yn gryf gyda chais yr un i Bryce Heem a Francois Hougaard yn ogystal ag ail y gêm i Olivier.

Roedd ail i Millard yng nghanol hynny i gyd wrth i’r Gleision sicrhau pwynt bonws ond doedd dim amheuaeth am y canlyniad wrth i’r Saeson groesi am wyth cais, 38-53 y sgôr terfynol.

.

Gleision

Ceisiau: Cameron Dolan 17’, Harri Millard 39’, 58’ Tom Williams 42’

Trosiadau: Steve Shingler 18’, 40’, 43’, 59’

Cic Gosb: Steve Shingler 13’

Cerdyn Melyn: BJ Edwards 64’

.

Caerwrangon

Ceisiau: Josh Adams 9’, 29’, Val Rapava Ruskin 20’, Sam Lewis 23’, Wynand Olivier 35’ 67’, Bryce Heem 49’, Francois Hougaard 54’

Trosiadau: Ryan Mills 10’, 23’, 30’, 35’, 49’

Cic Gosb: Ryan Mills 8’