Fe allai cricedwyr Iwerddon dderbyn statws gemau prawf llawn erbyn mis Ebrill.
Fe fydd y cynlluniau’n cael eu trafod mewn cyfarfod o fwrdd rheoli’r Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC) yn Dubai.
Y bwriad yw tynnu Iwerddon ac Afghanistan yn nes at gynghrair naw tîm, fydd yn cynnwys y timau prawf presennol yn unig.
Ond dros gyfnod o ddwy flynedd, fe allai Iwerddon ennill yr hawl i gystadlu yn y gynghrair yn ddibynnol ar berfformiadau.
Mae disgwyl i’r gynghrair ddechrau ar ôl Cwpan y Byd yn 2019.
Enillodd Iwerddon yr hawl i chwarae mewn gemau undydd rhyngwladol yn 2006.