Dreigiau 6–18 Newcastle

Colli fu hanes y Dreigiau wrth iddynt groesawu Newcastle i Rodney Parade yn y Cwpan Eingl-Gymreig brynhawn Sul.

Er i Tom Prydie gicio’r tîm cartref ar y blaen fe darodd Newcastle nôl yn gryf gyda chais Mark Wilson a throsiad Sonatane Takulua.

Caeodd Prydie’r bwlch i bwynt gyda’i ail gic gosb ond roedd gan Newcastle fantais iach ar yr egwyl diolch i gais Belisario Agulla a chic gosb Takulua.

Tri phwynt arall o droed Takulua oedd unig bwyntiau’r ail hanner wrth i’r Saeson ennill yn gymharol gyfforddus yn y diwedd, 6-18 y sgôr terfynol.

.

Dreigiau

Ciciau Cosb: Tom Prydie 8’, 28’

Cerdyn Melyn: Rynard Landman 58’

.

Newcastle

Ceisiau: Mark Wilson 20’, Belisario Agulla 31’

Trosiad: Sonatane Takulua 20’

Ciciau Cosb: Sonatane Takulua 37’, 42’