Luciano Narsingh (Llun: Clwb Pêl-droed Abertawe)
Mae asgellwr ymosodwr tîm pêl-droed Abertawe, Luciano Narsingh yn barod i herio Southampton yn yr Uwch Gynghrair yn Stadiwm Liberty nos Fawrth.

Dydy’r Iseldirwr ddim wedi chwarae ers iddo ymuno â’r Elyrch am £4 miliwn ar ddechrau’r mis, a hynny am ei fod e wedi anafu ei goes cyn symud i dde Cymru o PSV Eindhoven.

Ond mae e’n ymarfer yn llawn gyda’r garfan unwaith eto, ac yn ysu am ei gyfle i ddangos ei ddoniau.

Dywedodd Luciano Narsingh, 26, wrth wefan y clwb: “Dw i wedi bod yn aros am y cyfle i ddod draw i chwarae yn yr Uwch Gynghrair.

“Mae’n amser gwych i fi nawr ’mod i yma. Dw i wastad wedi bod eisiau chwarae yn yr Uwch Gynghrair, a phan ddaeth Abertawe ataf, ro’n i’n gwybod ’mod i eisiau chwarae i Abertawe.”

Ymhlith ei gydwladwyr sydd wedi chwarae i’r Elyrch yn y gorffennol mae Jonathan de Guzman.

Ychwanegodd Luciano Narsingh: “Dw i’n gwybod ers amser hir fod Abertawe’n chwarae pêl-droed yn dda. Roedd hynny’n apelio ataf.

“Ro’n i’n teimlo mai dyma’r amser cywir i fi ddod yma.”