Dydy Jim Botham ddim yn gymwys bellach i gynrychioli tîm rygbi Lloegr, ar ôl iddo chwarae dros Gymru yng Nghyfres Saith Bob Ochr y Byd yn Seland Newydd.

Mae e’n ŵyr i gyn-gapten tîm criced Lloegr, Syr Ian Botham ac yn fab i Liam Botham, a chwaraeodd i dîm rygbi Caerdydd.

Daeth e oddi ar y fainc wrth i Gymru guro Rwsia o 33-0, sy’n golygu ei fod e bellach wedi ymrwymo i Gymru am oes.

Mae e hefyd yn chwarae i Academi’r Gleision, ac wedi cynrychioli tîm dan 18 Cymru.