Mae Neil Warnock yn awyddus i ymestyn ei gytundeb i aros yn rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd y tymor nesaf.

Mae ei gytundeb presennol yn dod i ben yn yr haf.

Cafodd ei benodi ym mis Hydref yn olynydd i Paul Trollope.

Dywedodd Neil Warnock: “Hoffwn i ennill dyrchafiad y tymor nesaf.

“Dw i’n gweithio’n galed i ddangos i’r clwb beth alla i ei wneud.

“Dw i wedi cwrdd â’r perchennog [Vincent Tan] a phawb arall. Mae popeth yn bositif iawn.

“Dw i wedi dweud wrthyn nhw’n fanwl beth dw i’n meddwl sydd ei angen arnon ni, wnes i roi fy marn yn fanwl iddyn nhw’r wythnos hon.

“A dw i’n sicr y byddan nhw’n dod nôl ata’i a dweud a yw hynny’n bosibl.

“Mae’n glwb gwych a dw i’n credu ein bod ni’n dangos iddyn nhw ein bod ni’n gwybod beth ry’n ni’n ei wneud.”

Ychwanegodd fod Vincent Tan yn “gefnogol iawn”.