Mae disgwyl i asgellwr Cymru, George North fod yn holliach i chwarae dros Northampton yn erbyn Sale nos Wener.
Dyw e ddim wedi chwarae ers iddi ymddangos iddo orwedd yn anymwybodol ar lawr yn dilyn tacl beryglus arno mewn gêm yn erbyn Caerlŷr ar Ragfyr 3.
Mae disgwyl i Grŵp Adolygu a Rheoli Cyfergydion ddod i benderfyniad ddydd Mercher a fydd e’n cael chwarae neu beidio.
Ar ôl yr anaf yn erbyn Caerlŷr, dychwelodd George North i’r cae ar ôl cael profion ar yr ystlys.
Ond nid dyma’r tro cyntaf iddo ddioddef cyfres o anafiadau i’w ben.
Treuliodd e chwe mis allan o’r gêm y llynedd yn dilyn pryderon tebyg.