Mae’r Gwyddel Ed Joyce wedi cefnu ar dîm criced Lloegr yn y gobaith o gynrychioli Iwerddon mewn gemau prawf.
Mae e wedi derbyn cytundeb canolog gan Fwrdd Criced Iwerddon wrth iddyn nhw geisio statws gemau prawf dros y blynyddoedd nesaf.
Chwaraeodd y batiwr agoriadol 38 oed dros Loegr yn 2006-07, ac fe fydd yn parhau i chwarae dros Swydd Sussex ym Mhencampwriaeth y Siroedd er gwaetha’r cytundeb newydd.
Mae’n un o ddeg o chwaraewyr sydd wedi derbyn cytundeb canolog.
Dywedodd Ed Joyce ei bod yn “anrhydedd o’r mwyaf” cael derbyn y cytundeb, a’i fod eisiau “bod yn rhan o daith” Iwerddon wrth iddyn nhw geisio statws gemau prawf.