Owen Williams (Llun: Nigel French/PA)
Dylai’r maswr Owen Williams fod yn nhîm rygbi Cymru, yn ôl y bachwr rhyngwladol a chapten Caerlŷr, Tom Youngs.
Ciciodd y Cymro chwe chic gosb wrth i’r Teigrod guro Munster 0 18-16 yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn Welford Road ddydd Sadwrn.
Ar ôl y perfformiad a arweiniodd at fuddugoliaeth ei dîm, dywedodd Tom Youngs fod Owen Williams “wedi tyfu dipyn”.
“Mae e’n chwaraewr rhagorol, cystadleuwr sydd eisiau ennill. Mae e’n barod am unrhyw fath o her.
“Mae Owen yn foi eithaf onest a dibynadwy, chwarae teg iddo fe.
“Alla i ddim dychmygu’r pwysau pan fo’r dorf yn dawel a bod gyda chi gic fawr.”
Roedd y perfformiad wedi arwain Tom Youngs i gwestiynu pam nad yw Owen Williams wedi cynrychioli ei wlad.
“Dw i’n synnu gan ei fod e’n cynnig rhywbeth gwahanol i’r hyn sydd ganddyn nhw.
“Ond dw i’n sicr y bydd e’n parhau i weithio’n galed a chadw ei ben i lawr.
“Ry’ch chi’n mwynhau chwarae gyda bois o’r fath anian. Maen nhw am frwydro am bopeth, ac yn mwynhau’r her.”
Mae’r canlyniad yn golygu bod ganddyn nhw obaith o hyd o gyrraedd rownd yr wyth olaf.