Does gan reolwr tîm pêl-droed Abertawe, Bob Bradley ddim bwriad i ymddiswyddo er bod ei dîm yn aros yn nhri isaf yr Uwch Gynghrair dros y Nadolig ar ôl colli o 3-0 ym Middlesbrough brynhawn ddoe.

Hon oedd ail golled yr Elyrch o’r bron ar ôl colli o 3-1 yn erbyn West Brom nos Fercher, ac maen nhw’n un safle o waelod y tabl.

Lleisiodd rhai o’r cefnogwyr eu barn ar ddiwedd y gêm ddoe, ond mae’r Americanwr yn mynnu y gall weddnewid y perfformiadau er mwyn rhoi gobaith i’w dîm aros yn yr Uwch Gynghrair.

Dywedodd Bob Bradley: “Dw i’n mynd i mewn wedi fy ysgogi bob dydd a dw i wedi dweud droeon fy mod i’n hoffi’r chwaraewyr, dw i’n caru’r clwb a nawr mae hi’n her.

“Pan ddes i yma, ro’n i’n gwybod beth oeddwn i’n ei wneud a dw i ddim am gefnu ar hynny nawr.

“Dyna’r her, pan fo’r tîm wedi’i roi ei hun mewn trwbwl, mae angen i bawb aros gyda’i gilydd yn ystod y cyfnodau mwyaf anodd a brwydro.”

Roedd Bob Bradley wedi galw ar ei dîm i roi’r canlyniad nos Fercher y tu ôl iddyn nhw cyn y gêm ddoe, ond parhau y mae trafferthion yr Elyrch, yn enwedig yn yr amddiffyn wrth iddyn nhw barhau i ildio llu o goliau.

Daeth cyfleoedd cynnar i sgorio cyn i Alvaro Negredo sgorio ddwywaith i achosi niwed i’r Elyrch nad oedd modd ei wyrdroi.

Ychwanegodd Bob Bradley: “Mae’n amlwg fod rhaid i ni edrych arnon ni’n hunain a’r un hen hanes yw hi – fe ddechreuon ni’n iawn, fe deimlon ni’r egni a’r hyder ond wrth iddyn nhw edrych tua’r gôl am y tro cyntaf, aethon ni ar ei hôl hi.

“Fe drafodon ni’n gallu i ddal pethau ynghyd ond daeth eu hail gôl ar ôl dryswch rhyfedd gyda’r tafliad a’r peth nesaf roedd cic o’r smotyn ac roedden ni wedi rhoi ein hunain mewn twll.”

Mae’n dod yn fwy amlwg erbyn hyn y bydd rhaid i’r Elyrch ddibynnu ar gemau gartref i gasglu pwyntiau, ac fe fydd gemau yn erbyn West Ham ar 26 Rhagfyr a Bournemouth ar 31 Rhagfyr yn hollbwysig cyn i’r ffenest drosglwyddo ail-agor ym mis Ionawr.