Mae Sam Davies wedi arwyddo cytundeb “tymor hir” gyda’r Gweilch.
Cafodd maswr Cymru gyfres lwyddiannus yn yr hydref, wrth iddo ddod i’r cae yn eilydd mewn tair gêm, gan daro’r gôl adlam fuddugol yn erbyn Siapan.
Daw’r cytundeb yn dynn ar sodlau Dan Lydiate, Justin Tipuric a Dan Baker.
Dywedodd prif hyfforddwr y Gweilch, Steve Tandy eu bod yn “falch iawn” o fod wedi dal eu gafael ar un o’u sêr.
Ychwanegodd Sam Davies: “Mae’n fraint anferth i gynrychioli fy rhanbarth gartref ac rwy’n ffodus eithriadol o fod yn gallu arwyddo unwaith eto i’r Gweilch.
“Rwy ar ben fy nigon o gael cwblhau’r cyfan.”