Glasgow 5–22 Gweilch
Dychwelodd y Gweilch o Scotstoun gyda phwyntiau llawn nos Wener yn dilyn buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn Glasgow yn y Guinness Pro12.
Chwaraeodd y tîm cartref yr hanner awr olaf gyda phedwar dyn ar ddeg a manteisiodd y Cymry’n llawn gan groesi am bedwar cais.
Cais Tom Habberfield i’r Gweilch a oedd unig bwyntiau’r hanner cyntaf ond daeth trobwynt y gêm yn gynnar yn yr ail gyfnod pan yr anfonwyd Brian Alainu’uese oddi ar y cae gyda cherdyn coch.
Manteisiodd y Gweilch ar y gwagle i groesi am dri chais mewn deunaw munud, un yr un i Tom O’Flaherty, Dan Baker ac Ashley Beck.
Croesodd Juniou Bulumakau am gais cysur i Glasgow ddau funud o’r diwedd ond noson y Gweilch oedd hi. Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch i’r ail safle yn nhabl y Pro12.
.
Glasgow
Ceisiau: Juniou Bulumakau 78’
Cerdyn Coch: Brian Alainu’uese 47’
.
Gweilch
Ceisiau: Tom Habberfield 36’, Tom O’Flaherty 49’, Dan Baker 57’, Ashley Beck 67’
Trosiad: Josh Matavesi 68’