Mae’n rhaid i Abertawe guro Crystal Palace yn Stadiwm Liberty y prynhawn yma, yn ôl y rheolwr, Bob Bradley.
Dydy’r Elyrch ddim wedi ennill yr un o’u gemau yn yr Uwch Gynghrair ers eu buddugoliaeth dros Burnley ar ddiwrnod cynta’r tymor.
Ac maen nhw’n dal i geisio buddugoliaeth gyntaf o dan yr Americanwr a ddaeth i Abertawe yn lle Francesco Guidolin ar ôl saith gêm yn unig o’r tymor hwn.
Mae rhediad o 11 o gemau heb fuddugoliaeth yn golygu eu bod nhw ar waelod yr Uwch Gynghrair, ond maen nhw’n wynebu tîm Alan Pardew sydd wedi colli pum gêm o’r bron.
Ar ôl wynebu timau fel Man City, Arsenal, Man U, Chelsea a Lerpwl a methu â sicrhau triphwynt yn yr un o’r gemau hynny, mae gemau yn erbyn rhai o’r timau yng ngwaelodion y tabl yn dod yn bwysicach fyth i obeithion y Cymry o aros yn yr Uwch Gynghrair eleni.
Roedd arwyddion bod perfformiadau’r tîm wedi gwella rywfaint wrth iddyn nhw ennill pwynt yn erbyn Everton ar Barc Goodison ddydd Sadwrn diwethaf, ac mae Bob Bradley wedi annog ei chwaraewyr i adeiladu ar y perfformiad hwnnw.
“Rhaid i ni ennill. Fe wnawn ni ennill. Rhaid i ni ddarganfod ffordd o fod yn gryf a phositif, manteisio ar bethau sy’n mynd i’r cyfeiriad cywir a gwneud i bopeth gyfri.
“Mae hyn yn ymwneud â’n gallu ni i ateb her, ein gallu i aros yn gryf ac yn unedig, a dyna’r hyn y gallwn ni ei reoli.”
Y timau
Mae Bob Bradley wedi awgrymu ei fod yn nes at wybod ei 11 chwaraewr gorau erbyn hyn, er iddo amnewid ei chwaraewyr gryn dipyn yn ei gemau cyntaf wrth y llyw.
Dydy Ki Sung-yueng ddim ar gael i Abertawe ar ôl anafu bys ei droed, ond mae Leon Britton a Jefferson Montero yn holliach ar ôl colli’r gêm yn erbyn Everton.
Roedd nifer o’r gwybodusion yn canmol perfformiad Jay Fulton yng nghanol cae yn ei drydedd gêm yn unig i Abertawe’r wythnos diwethaf, ac fe allai gael cyfle unwaith eto i brofi ei werth y tu ôl i ymosod sydd wedi bod yn brin o goliau’r tymor hwn.
Mae newyddion da i’r ymwelwyr gan fod y Cymro Joe Ledley wedi gwella o anaf, ond dydy hi ddim yn glir eto a fydd e’n dechrau’r gêm.
Ond os nad yw hynny’n ddigon i sicrhau triphwynt i’r Eryr, mae rhai yn darogan y gallai’r rheolwr Alan Pardew golli ei swydd dros y penwythnos.
Record y ddau dîm
Yn eu chwe gêm blaenorol yn erbyn ei gilydd, dim ond unwaith y mae’r Elyrch wedi colli, a hynny ar Barc Selhurst y llynedd.
Serch hynny mae’r Elyrch yn canfod eu hunain mewn sefyllfa anodd, gyda chwe phwynt yn unig yn eu 12 gêm gyntaf. Dim ond pedwar tîm allan o 12 yn oes yr Uwch Gynghrair sydd wedi goroesi’r fath sefyllfa.
Canlyniadau yn Stadiwm Liberty sy’n bennaf gyfrifol am dymor siomedig yr Elyrch, gan eu bod nhw wedi ennill dau bwynt yn unig ar eu tomen eu hunain y tymor hwn.
A bellach, dim ond Abertawe o blith timau’r Uwch Gynghrair sydd heb ennill gartref y tymor hwn.