Gleision 15–26 Scarlets

Yr ymwelwyr aeth â hi wrth i’r Scarlets ymweld â Pharc yr Arfau i wynebu’r Gleision yn y Guinness Pro12 nos Wener.

Sgoriodd Bois y Sosban dri chais yn yr hanner cyntaf cyn ychwanegu pedwerdydd yn yr eiliadau cyntaf wedi’r egwyl wrth ennill gyda phwynt bonws.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y gêm ar gan milltir yr awr gyda thri chais yn y chwarter awr agoriadol.

Daeth y cyntaf o’r rheiny i Aaron Shingler wedi wyth munud, y blaenasgellwr yn yn ymestyn yn dda ar ôl cael ei daclo’n fyr o’r llinell gais yn wreiddiol.

Roedd ail gais i’r ymwelwyr ddau funud yn ddiweddarach wrth i Jonathan Evans groesi yn dilyn dadlwythiad crefftus DTH van der Merwe. Trosodd Rhys Patchell y ddau gais i roi’r Scarlets bedwar pwynt ar ddeg ar y blaen wedi dim ond deg munud.

Hanerodd y Gleision y bwlch hwnnw ddau funud yn ddiweddarach gyda chais Tom James a throsiad Steve Shingler, y Scarlets yn ceisio gwrthymosod o’u llinell eu hunain ac asgellwr y Gleision yn rhyng-gipio a sgorio.

Tro Bois y Sosban i elwa o ryng-gipiad a oedd hi chwarter awr cyn yr egwyl wrth i van der Merwe groesi am drydydd cais yr ymwelwyr wedi i Aled Thomas gipio’r meddiant.

Rhoddodd trosiad Patchell bedwar pwynt ar ddeg rhwng y ddau dîm unwaith eto ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser wedi i’r Scarlets, gyda chymorth y dyfarnwr, lwyddo i amddiffyn sawl sgrym yng nghysgod pyst eu hunain.

Ail Hanner

Roedd llai na munud o’r ail hanner wedi mynd pan groesodd Hadleigh Parkes am bedwerydd cais y Scarlets wedi bylchiad gwych Patchell o’i hanner ei hun. Ond er creu’r cais, methu’r trosiad a wnaeth y maswr yn erbyn ei gyn glwb.

Caeodd Steve Shingler y bwlch gyda chic gosb i’r tîm cartref, a gyda blaenasgellwr y Scarlets, Will Boyde, yn y gell gosb fe gaewyd y bwlch ym mhellach gan ail gais y Gleision. Blaine Scully a oedd y sgoriwr, yr Americanwr yn gorffen yn acrobatig yn y gornel.

Rhoddodd hynny’r tîm cartref o fewn dwy sgôr gyda chwarter awr yn weddill ond er i’r Gleision guro ar y drws, fe ddaliodd amddiffyn y Scarlets yn gryf gan ddal eu gafael ar y fuddugoliaeth yn gymharol gyfforddus yn y diwedd.

Ac mae’r fuddugoliaeth honno’n ddigon i godi gwŷr y Gorllewin dros y Gleision i’r chweched safle yn nhabl y Pro12.

.

Gleision

Ceisiau: Tom James 12’, Blaine Scully 66’

Trosiad: Steve Shingler 14’

Ciciau Cosb: Steve Shingler 47’

Cerdyn Melyn: Tau Filise 39’

.

Scarlets

Ceisiau: Aaron Shingler 8’, Jonathan Evans 10’, DTH van der Merwe 24’, Hadleigh Parkes 41’

Trosiadau: Rhys Patchell 8’, 10’, 24’

Cardiau Melyn: Wyn Jones 49’, Will Boyde 56’, Aaron Shingler 70’