Sam Warburton oedd y cynta' i arwyddo yn 2014
Mae Sam Warburton, Dan Lydiate, Hallam Amos a Samson Lee wedi arwyddo cytundebau deuol newydd gydag Undeb Rygbi Cymru.
Mae’r pedwar wedi dewis parhau i chwarae i ranbarthau Cymru, a rhyngddyn nhw mae ganddyn nhw dros 160 0 gapiau rhyngwladol.
Capten Cymru Sam Warburton, 28, oedd y chwaraewr cynta’ i arwyddo cytundeb ddeuol gyda URC yn 2014. Dyna pryd yr arwyddodd Dan Lydiate a Hallam Amos hefyd. Arwyddodd Samson Lee ei gytundeb ef yn 2015.
“Wrth fy modd”
“Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi gallu cyhoeddi bod pedwar o sêr rhyngwladol wedi ail-bwysleisio eu hymrwymiad i’r gêm yma yng Nghymru trwy ail lofnodi contractau deuol cenedlaethol,” meddai Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips.
“Mae cael ein chwaraewyr gorau yn chwarae yma yng Nghymru yn hanfodol i lwyddiant y gêm yn y dyfodol.”