Llun: Clwb Rygbi Llanymddyfri
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddyn 41 oed a gafodd ei ladd pan gafodd ei daro gan gar yn Sbaen.
Mae lle i gredu bod Eifion Gwynne yn teithio i’r Costa del Sol ar gyfer angladd ei ffrind pan gafodd ei ladd ym Malaga.
Cafodd marwolaeth dyn o wledydd Prydain ei gadarnhau gan y Swyddfa Gartref.
Roedd ganddo fe wraig a thri o blant.
Mewn teyrnged ar wefan Clwb Rygbi Llanymddyfri, un o’i gyn-glybiau, dywedodd Llywydd y clwb, Handel Davies: “Gyda thristwch anferth yr ydym wedi dysgu am farwolaeth Eifion Gwynne.
“Cymro i’r carn oedd Eifion Gwynne. Un o’r bobol neisaf.
“Yn syml, person ffantastic a chwaraewr rygbi rhagorol.
“Mae e’n un o’r bobol brin hynny ry’ch chi’n teimlo anrhydedd o fod wedi ei adnabod ac yn ffrind bore oes i bawb oedd yn ei adnabod.
“Mae ein meddyliau gyda’i wraig a’i blant yn eu colled nad oes modd ei mesur.”
Roedd Eifion Gwynne yn chwaraewr gyda’r clwb am bedwar tymor rhwng 2003 a 2007, ac fe gafodd ei enwi’n seren y gêm pan enillodd y clwb Gwpan Cymru yn 2007.
Cafodd ei ddisgrifio yn nheyrnged Handel Davies fel “blaenwr ymroddgar oedd yn cario’r bêl heb ofn, er pan oedd e’n bylchu fe ellid maddau i chi am feddwl ei fod yn chwaraewr tri-chwarter”.
Ychwanegodd ei fod yn “ŵr bonheddig ar y cae ac oddi arno”.
Mae llu o deyrngedau wedi’u rhoi ar wefan gymdeithasol Twitter.
Cofleidiad tynn iawn i’m holl deulu wrth noswylio heno, ble bynnag y bôch, gan feddwl am un teulu sy’n galaru yma yn Aber #EifionGwynne
— Arthur Dafis (@arthurdafis) October 23, 2016
Trist iawn I glywed newyddion @llandoveryrfc a @AberRFC am Eifion Gwynne #teulurygbi #cofion
— Cardiffrfc (@Cardiff_RFC) October 23, 2016
Gyda thristwch a chalon drwm newyddion ofnadwy fod Eifion Gwynne wedi marw
— Llandovery RFC (@llandoveryrfc) October 23, 2016
Gyda thristwch a chalon drwm newyddion ofnadwy fod Eifion Gwynne wedi marw
— Handel Davies (@handeldavies) October 23, 2016