Fe gafodd Nigel Owens ei feirniadu ddydd Sadwrn am benderfyniad amheus yn y gêm rhwng Seland Newydd ac Awstralia, wrth i’r Cymro o Fynyddcerrig ymestyn ei record ddyfarnu.
Fe ddyfarnodd Owens gêm rhif 73 ei yrfa ryngwladol ddydd Sadwrn ar ôl torri’r record ym mis Mehefin ar ddiwrnod gêm Ffiji yn erbyn Tonga.
Penderfynodd y dyfarnwr o Fynyddcerrig na ddylid caniatâu cais yr Awstraliad Henry Speight yn y gêm Gwpan Bledisloe yn erbyn Seland Newydd ym Mharc Eden.
Fe fyddai’r cais wedi unioni’r sgôr 15-15 ond fe aeth y Crysau Duon ymlaen yn y pen draw i ennill o 37-10 i sicrhau eu deunawfed buddugoliaeth o’r bron – sydd yn record byd.
Ond fe benderfynodd Owens fod Dane Haylett-Petty wedi atal Julian Savea rhag cwblhau tacl, ac fe gafodd y sefyllfa ei thrafod gyda’r dyfarnwr fideo Shaun Veldsman cyn gwrthod y cais.
Yn ôl yr Awstraliad Rod Kafer, oedd yn sylwebu ar Fox Sports, ni ddylai Owens gael dyfarnu mewn gêm ryngwladol byth eto.
Fe honnodd fod Owens wedi cael ei ddylanwadu gan y dorf cyn troi at y dyfarnwr fideo.
Yn ystod ei sylwebaeth, dywedodd Kafer: “Mae hyn yn warthus, mae’r dorf wedi bod yng nghlust y dyfarnwr ac mae Nigel Owens wedi gofyn am benderfyniad y TMO ynghylch chwaraewr oedd y tu ôl i’r bêl ac na fyddai wedi bod mewn sefyllfa i effeithio ar y bêl.
“Mae Nigel Owens wedi cael ei dwyllo gan y dorf yma.
“Roedd e ysgwydd wrth ysgwydd, mae e tu ôl i’r bêl, does yna’r fath beth â rhwystro.
“Ni ddylai Nigel Owens gael dyfarnu gêm brawf byth eto, mae hynny’n warthus.”
Ychwanegodd fod y penderfyniad “wedi newid trwydd y gêm brawf hon”.
Un arall sydd wedi beirniadu’r penderfyniad yw’r cyn-ddyfarnwr Jonathan Kaplan, y dyfarnwr y torrodd Owens ei record ddyfarnu.
Mae Kaplan wedi ail-drydar nifer o sylwadau beirniadol gan gyn-faswr Awstralia, Michael Lynagh a chyn-flaenasgellwr Seland Newydd, Zinzan Brooke.