Mae capten tîm pêl-droed Abertawe, Leon Britton wedi galw ar ei gyd-chwaraewyr i sicrhau eu bod nhw’n parhau i osgoi ildio goliau ar ôl gêm ddi-sgôr yn erbyn Watford brynhawn dydd Sadwrn.
Fe fydd yr Elyrch yn teithio i Stoke nos Lun nesaf yn y gobaith o godi allan o safleoedd disgyn yr Uwch Gynghrair ar ôl aros yn bedwerydd ar bymtheg y penwythnos hwn.
Hon oedd gêm gartref gynta’r rheolwr newydd, Bob Bradley, a hon hefyd oedd y gêm gyntaf ers diwrnod cynta’r tymor yn erbyn Burnley heb fod yr Elyrch wedi ildio’r un gôl.
Roedd partneriaeth newydd yng nghanol yr amddiffyn wrth i’r Iseldirwr Mike van der Hoorn a’r Sais ifanc Alfie Mawson chwarae gyda’i gilydd am y tro cyntaf.
Stephen Kingsley oedd ar yr ochr chwith, a Kyle Naughton ar y dde.
Ac mae Britton o’r farn y gall y pedwar lwyddo i arwain y tîm i’w buddugoliaeth gyntaf.
“Mae’r llechen lân yn bositif iawn.
“Fe wnaethon ni dri o newidiadau yn y cefn yn erbyn dau foi cryf iawn, Troy Deeney ac Odion Ighalo. Dw i’n credu bod y ddau foi yn y canol wedi ymdrin â nhw’n dda iawn.
“Dw i’n credu bod y tîm cyfan wedi gweithio’n galed iawn i gael yr hyn oedd yn llechen lân dda iawn i ni.
“Nawr, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n cael rhagor o lechi glân yn y dyfodol oherwydd, yn amlwg, mae hynny’n rhoi cyfle llawer gwell i chi gael buddugoliaethau.
“Roedden ni’n edrych yn gadarn iawn y penwythnos hwn a rhaid i ni barhau â hynny wrth fynd i Stoke wythnos i ddydd Llun.”
Cafodd yr Elyrch sawl cyfle i ennill y gêm wrth i Gylfi Sigurdsson daro’r postyn a darganfod dwylo diogel y golwr Heurelho Gomes sawl gwaith.
Daeth van der Hoorn o fewn trwch blewyn o sgorio hefyd, ond fe gafodd yr ergyd ei harbed gan Gomes.
“Fe wnaethon ni greu cyfleoedd ac roedden ni’n edrych yn gadarn. Mae’r rheiny’n bethau positif iawn i ni.
“Rhaid i ni fynd â’r perfformiad positif i mewn i’r gêm yn erbyn Stoke.
“Rhaid i ni barhau i chwarae fel hyn, cadw llechi glân a chreu cyfleoedd, ac os ydyn ni’n gwneud hynny fe ddaw’r canlyniadau.”