Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman wedi dweud wrth golwg360 ei fod e’n teimlo’n “ostyngedig, lwcus a breintiedig” ar ôl derbyn Rhyddid Dinas Abertawe.
Cafodd Coleman, sy’n enedigol o Abertawe, ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig yn Neuadd y Ddinas nos Iau, gyda chinio yng nghwmni prif leisydd y Manic Street Preachers, James Dean Bradfield i ddilyn.
Chwaraeodd Coleman i dîm Abertawe 160 o weithiau ar ddechrau ei yrfa rhwng 1987 a 1991, cyn mynd ymlaen i gynrychioli Crystal Palace, Blackburn a Fulham fel amddiffynnwr a blaenwr.
Enillodd 32 o gapiau dros Gymru, gan sgorio pedair gôl, ac fe gafodd ei benodi’n rheolwr Cymru yn dilyn marwolaeth Gary Speed yn 2012, a hynny ar ôl cyfnodau’n rheolwr ar glybiau Fulham, Real Sociedad yn Sbaen, Coventry a Larissa yng Ngroeg.
Ond daeth ei uchafbwynt fel rheolwr wrth iddo arwain Cymru i rowndiau terfynol Ewro 2016 yn gynharach eleni, gan gyrraedd y rownd gyn-derfynol cyn colli yn erbyn Portiwgal, a aeth ymlaen i ennill y gystadleuaeth.
Er ei holl lwyddiannau, dywedodd Coleman wrth Golwg360 bod yr anrhydedd hefyd yn cydnabod cefnogaeth ei deulu ar hyd y blynyddoedd – ei wraig a’i blant, ei fam, ei chwiorydd a’i ffrindiau.
“Dw i’n sôn amdanyn nhw gan mai nhw sydd wedi bod gyda fi drwy bopeth. Mae’n wych ein bod ni’n ennill nawr ond nid felly y bu hi wastad. Yr hyn sydd wedi aros yn gyson yw’r bobol o ‘nghwmpas i. Maen nhw’n haeddu’r anrhydedd gan na fyddwn i lle’r ydw i nawr oni bai amdanyn nhw.”
Plentyndod
Yn Abertawe y cydiodd pêl-droed yn y Coleman chwech neu saith oed ac mae’n dweud bod yr egwyddorion a ddysgodd yn blentyn yn Abertawe sydd wedi ei gynnal ar hyd ei yrfa.
“Alla i ddim cofio’n union pryd, ond fe ddechreuais i gicio pêl o gwmpas yr ardd gyda ’nhad ac fee s i ymlaen wedyn i chwarae i dîm tad un o fy ffrindiau, Jonathan Doyle, y diweddar John Doyle. Roedd gyda fe dîm, North End ac fe wnes i chwarae gyda nhw a John Dickerson, oedd yno gyda fi [yn y seremoni].
“Fe wnes i aros gyda’r tîm hwnnw a’r bobol hynny ac ry’n ni’n agos iawn o hyd. Yn y dyddiau hynny, roedd gyda chi egwyddorion oedd yn cael eu plannu ynoch chi ac ry’ch chi’n cadw atyn nhw o hyd gan eu bod nhw’n dda, a dw i’n sicr wedi gwneud hynny.”
Yr Elyrch
Daeth y cyntaf o’i 160 o gemau i Abertawe pan oedd Coleman yn 17 oed, a thrwy gyd-ddigwyddiad fe orffennodd ei yrfa wrth i hanes ailadrodd ei hun yn 2002.
“Fel mae’n digwydd, fe wnes i chwarae fy ngêm gyntaf oddi cartref yn Stockport, a Stockport oddi cartref, wrth chwarae i Fulham, oedd fy ngêm olaf hefyd ryw bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, felly roedd hynny’n eironig.
“Mae fy holl atgofion o chwarae i Abertawe’n gryf iawn ac yn bwerus iawn. Bachan o Abertawe ydw i, felly roedd cael chwarae i dîm y ddinas, dyna’r cyfan wnes i freuddwydio amdano fe’n grwtyn, cael chwarae i Abertawe a thros Gymru, ac yn ffodus iawn fe lwyddais i i wneud hynny.”
Beth nesaf i Gymru?
Er bod Coleman wedi dweud droeon ers yr haf fod rhaid edrych ymlaen, roedd achlysur ei anrhydeddu’n cynnig un cyfle olaf i hel atgofion am Ewro 2016 ac fe ddywedodd wrth Golwg360 fod yr ymateb a gafodd y tîm wrth ddychwelyd adref wedi ei ysgogi fe fel rheolwr i gyrraedd Cwpan y Byd yn 2018.
“Pan oedden ni yn Ffrainc, roedden ni’n cael clywed gymaint o effaith roedden ni’n ei chael ar y genedl. Ond dydych chi ddim yn sylweddoli hynny nes i chi ei weld e.
“Pan ddychwelon ni, roedd y croeso gawson ni… Wel, alla i ddim disgrifio’r teimlad wnaeth hynny roi i ni. Doedd gyda ni ddim clem. Roedd y cyfan yn anhygoel. Mae’n gwneud i chi deimlo’n falch iawn ac yn benderfynol o wthio ymlaen a’i wneud e eto. Fydd e ddim yn hawdd, ond dyna ry’n ni’n anelu ato.”
Mae Coleman yn cyfaddef na fydd hi’n hawdd ailadrodd eu llwyddiant yn Ffrainc wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Cwpan y Byd yn Rwsia ymhen dwy flynedd.
“Gallwch chi bob amser gyflawni rhagor. Does dim ots beth ry’ch chi wedi ei gyflawni yn y gorffennol. Gallwch chi fynd a chael rhagor a chyflawni mwy.
“Rhaid i chi anelu am ragor ac mae angen i chi fod braidd yn farus. Does dim byd yn bod ar hynny mewn gyrfa.
“Dw i am gael mwy. Dw i’n moyn mynd i Gwpan y Byd. Wrth gwrs bo fi’n hapus gyda’r hyn ry’n ni wedi ei wneud, ond dw i ddim yn hapus i fodloni ar hynny.
“Dw i am i ni wthio am ragor, mynd allan, croesi’r llinell, rhoi ein hunain o dan y chwyddwydr eto, peidio â bod yn gyfforddus, peidio â gorffwys ar ein rhywfau a dw i’n credu, os edrychwch chi ar ein tîm ni, bydd pobol yn dweud ein bod ni’n ddigon da i gyflawni mwy a fy nghyfrifoldeb i yw eu gwthio nhw ymlaen.
“Ein cyfrifoldeb ni fel cenedl yw eu gwthio nhw ymlaen a’u cefnogi nhw, a sicrhau ein bod ni’n cyflawni’r hyn ry’n ni newydd ei wneud unwaith eto.”