Bob Bradley
Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Bob Bradley wedi dweud bod sylwedd yn bwysicach na steil wrth i’r Elyrch groesawu Watford i Stadiwm Liberty y prynhawn yma (3pm).
Dim ond pedwar pwynt sydd gan yr Elyrch o’u wyth gêm gyntaf, ac mae’r Americanwr eisoes wedi cyfaddef eu bod nhw’n wynebu cryn her i aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.
Cafodd Bradley ei feirniadu’r wythnos hon gan gyflwynydd ‘Match of the Day’ Gary Lineker ar Twitter am ddewis trowsus a siwmper ar gyfer ei gêm gyntaf fel rheolwr Abertawe yn erbyn Arsenal yn Stadiwm Emirates penwythnos diwethaf.
Ond mae llawer gwell gan Bradley ddangos sylwedd na steil ar y cae, meddai.
“Mae nifer o enghreifftiau mewn bywyd pan fo pobol yn poeni mwy am sut mae pethau’n dod drosodd neu eu statws.
“Dw i’n deall y busnes Twitter ’ma. Ar Twitter maen nhw’n ymddwyn fel y bois caletaf yn y byd. Mae hynny’n dda i ddim pan mai’r cyfan ry’ch chi’n ei wneud yw teipio 140 o lythrennau.
“Beth am ymateb pan fo’n cyfri? Os ydyn ni am gael tîm da ac amgylchfyd da, mae’n cyfri mwy os ydych chi’n sefyll i fyny pan ydych chi o dan bwysau. Dyna sut mae profi eich hun.”
Y timau
Y newyddion da i Abertawe yw fod yr ymosodwr o Sbaen, Fernando Llorente yn dychwelyd ar ôl anafiadau i’w asennau a’i benglin.
Mae’r chwaraewr canol-cae Modou Barrow hefyd wedi gwella o anaf i’w goes, ond mae’r asgellwr Jefferson Montero allan o hyd gydag anaf i groth ei goes.
Dywedodd Bradley am Barrow: “Mae ein syniad ni ynghylch sut i’w ddefnyddio fe’n gwella ac mae e’n holliach ac yn ysu i adeiladu ar yr wythnos diwethaf.
“Mae Mo eisiau dysgu ac o fewn y garfan, mae pobol yn gweld ei ddoniau a’r hyn mae’n gallu ei wneud. Mae ei gyflymdra’n rhywbeth sy’n gallu troi amddiffynwyr ar eu sodlau.
O safbwynt Watford, mae amheuon ynghylch ffitrwydd Isaac Success oedd wedi anafu ei goes yn y gêm yn erbyn Middlesbrough yr wythnos diwethaf.
Mae disgwyl i Jerome Sinclair ddychwelyd ar ôl anafu llinyn y gâr, ond mae Craig Cathcart wedi anafu cesail y forddwyd, tra bod Daryl Janmaat wedi anafu ei ysgwydd.
Er bod Abertawe’n bedwerydd ar bymtheg yn y tabl, mae rheolwr Watford, Walter Mazzarri yn disgwyl tipyn o her yn ne Cymru.
Dywedodd yr Eidalwr: “Hyd yn oed o dan Francesco Guidolin roedden nhw’n chwarae pêl-droed yn dda ar adegau felly maen nhw’n dîm da iawn ac yn eu stadiwm eu hunain, maen nhw’n dîm y mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol ohonyn nhw.
“Mae Abertawe’n dîm da sy’n haeddu mwy o bwyntiau nag sydd ganddyn nhw mor belled.”
‘Rhaid dechrau yn rhywle’
Ar drothwy’r gêm, dywed Bob Bradley fod rhaid i Abertawe ddechrau gwyrdroi eu sefyllfa’r tymor hwn, ac y byddai triphwynt yn erbyn Watford yn fan cychwyn da.
“Mae angen cael rhediad da, mae’n rhaid iddo ddechrau yn rhywle. Mae pawb yn gwybod hynny.
“Er yr agweddau positif yn yr Emirates, roedden ni’n siomedig na chawson ni rywbeth allan ohoni. Nawr wrth ddychwelyd i’r Liberty, o ystyried popeth, mae’r gêm hon yn bwysig ym mhob ffordd.
“Fe welais i bethau da [yn erbyn Arsenal] ond yr hyn sy’n bwysig nawr yw pwysleisio wrth y chwaraewyr y mannau ry’n ni wedi’u nodi lle ry’n ni am wella. Dydyn ni ddim yno eto.
“Ond mae’n bwysig, hyd yn oed ar adegau pan nad yw popeth yn berffaith, eu bod nhw’n deall ein bod ni’n symud yn y cyfeiriad cywir, y gallwn ni fod y math yna o dîm ond bod rhaid i ni barhau i weithio’n galed bob wythnos.”