Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Munster, Anthony Foley wedi marw’n 42 oed.

Roedd y tîm yn aros mewn gwesty ym Mharis, lle’r oedd disgwyl iddyn nhw herio Racing 92 heddiw.

Ond mae’r gêm wedi cael ei gohirio yn dilyn y newyddion.

Fe fu Foley, cyn-chwaraewr rhyngwladol gydag Iwerddon, wrth y llyw ers 2014.

Fel chwaraewr, fe enillodd e 62 o gapiau dros ei wlad, a’u harwain dair gwaith. Roedd yn gapten ar dîm Munster a gododd Gwpan Ewrop yn 2006.

Mewn datganiad, dywedodd Munster ac Undeb Rygbi Iwerddon iddo farw dros nos.