Treviso 6–22 Scarlets
Cafwyd ail hanner da gan y Scarlets wrth iddynt daro nôl i drechu Treviso yn y Stadio Monigo yn y Guinness Pro12 nos Sadwrn.
Roedd Bois y Sosban ar ei hôl hi ar hanner amser ond sgoriodd y Cymru dri chais yn yr ail hanner wrth ennill y gêm yn gymharol gyfforddus yn y diwedd.
Bu rhaid aros dros hanner awr am bwyntiau cyntaf y gêm, a daeth rheiny trwy gic gosb Tommaso Allan i Treviso er bod yr Eidalwyr lawr i bedwar dyn ar ddeg wedi cerdyn melyn Alberto De Marchi.
Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond roedd y Scarlets yn gyfartal yn gynnar yn yr ail gyfnod diolch i gic gosb Rhys Patchell.
Wnaeth hi ddim aros felly’n hir cyn i Allan lwyddo gyda chic arall i adfer mantais y tîm cartref.
Tro’r Scarlets i chwarae gydag un dyn yn llai a oedd hi wedyn wrth i David Bulbring dreulio deg munud yn y gell gosb.
Ond wnaeth hynny ddim effeithio’r ymwelwyr yn ormodol achos aethant ar y blaen am y tro cyntaf diolch i gais yr eilydd, Werner Kruger.
Rhoddodd cais DTH van der Merwe ychydig o olau dydd rhwng y ddau dîm ddeuddeg munud o’r diwedd cyn i Steffan Evans ychwanegu trydydd i roi golwg fwy cyfforddus ar y sgôr yn y munud olaf, 6-22 wedi trosiad Aled Thomas.
.
Treviso
Ciciau Cosb: Tommaso Allan 33’, 46’
Cerdyn Melyn: Alberto De Marchi 27’
.
Scarlets
Ceisiau: Werner Kruger 54’, DTH can der Merwe 69’, Steffan Evans 80’
Trosiadau: Rhys Patchell 55’, Aled Thomas 80’
Ciciau Cosb: Rhys Patchell 43’
Cerdyn Melyn: David Bulbring 48’