Ulster 9–7 Gweilch

Ciciodd Paddy Jackson gic gosb hwyr wrth i Ulster drechu’r Gweilch yn y Guinness Pro12 nos Sadwrn.

Roedd y Gweilch ar y blaen am dros saith deg munud o’r gêm yn Stadiwm Kingspan cyn i’r maswr cartref gipio’r fuddugoliaeth i’r Gwyddelod funud o’r diwedd .

Pum munud yn unig a oedd ar y cloc pan yr aeth yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen wrth i’r prop, Nicky Smith, hyrddio drosodd gyda chymorth Justin Tipuric. 0-7 y sgôr wedi trosiad Dan Biggar.

Caeodd Jackson y bwlch gyda thri phywnt cyntaf Ulster ddeuddeg munud cyn yr egwyl ond y Gweilch a oedd ar y blaen wrth droi.

Roedd y Gwyddelod o fewn pwynt wedi pedwar munud o’r ail hanner diolch i ail gic gosb Jackson ac felly yr arhosodd hi tan funud o’r diwedd pan dorodd Jackson galonnau’r Gweilch gyda’i drydedd cic gosb lwyddiannus, 9-7 y sgôr terfynol.

.

Ulster

Ciciau Cosb: Paddy Jackson 28’, 44’, 79’

.

Gweilch

Ceisiau: Nicky Smith 5’

Trosiadau: Dan Biggar 6’