Airbus 2–3 Llandudno        
                                                               

Sgoriodd Lewis Buckley gôl i’w chofio wrth i Landudno drechu Airbus mewn gêm wych yn erbyn Airbus ar y Maes Awyr yn Uwch Gynghrair Cymru nos Sadwrn.

Roedd yr ymwelwyr eisoes ddwy gôl i un ar y blaen cyn i Buckley ychwanegu’r drydedd gydag ergyd bron o’r llinell hanner. Sgoriodd Airbus ail hwyr i greu diweddglo agos ond daliodd Llandudno eu gafael ar y tri phywnt.

Hanner Cyntaf

Cafodd y ddau dîm gyfnodau cryf mewn hanner cyntaf cyffrous gan greu ambell gyfle da o flaen gôl.

Daeth y cyntaf o’r rheiny i Airbus wedi dim ond tri munud ond cafodd peniad Tony Gray ei glirio oddi ar y llinell gan Danny Taylor.

Dri munud yn unig yn ddiweddarach ac roedd Llandudno wedi mynd ar y blaen yn y pen arall, Mike Williams yn sgorio wedi i Ryan Neild arbed cynnig ei frawd, Marc Williams.

Unionodd Airbus gyda gôl wych wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae. Disgynnodd y bêl i Ryan Edwards y tu allan i’r cwrt cosbi a chrymanodd y chwaraewr canol cae hi’n gelfydd i’r gornel uchaf o ugain llath.

Airbus a oedd y tîm gorau’r wedi’r gôl hefyd ond yr ymwelwyr a oedd ar y blaen erbyn hanner amser, Leo Riley yn rhwydo wedi i Airbus fethu ag ymdopi â chroesiad James Joyce.

Ail Hanner

Dechreuodd Llandudno yr ail hanner yn dda a bu bron iddynt ychwanegu trydedd gôl yn y dau funud cyntaf. Gorfododd Riley arbediad da gan Neild wedi pas ddeheuig John Owen, cyn i Owen ei hun daro’r trawst gyda hanner foli grefftus o ochr y cwrt cosbi.

Fe ddaeth trydedd gôl haeddiannol i’r ymwelwyr ugain munud o’r diwedd, ac am gôl. Llygadodd Buckley y gôl-geidwad oddi ar ei linell cyn codi’r bêl drosto o’r cylch canol!

Roedd y gôl honno’n haeddu ennill y gêm, a dyna’n union a wnaeth hi yn y diwedd er i beniad Matty McGinn o gic rydd Ryan Fraughan achosi diweddglo clos ar y Maes Awyr.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Llandudno i’r pumed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair tra mae Airbus yn llithro allan o’r chwech uchaf i’r nawfed safle.

.

Airbus

Tîm: Neild, Spittle, Connolly, McGinn, Hulley (Monteiro 86’), Jackson (Murphy 64’), Edwards, Williams, Menagh, Fraughan, Gray

Gôl: Edwards 28’

.

Llandudno

Tîm: Roberts, Taylor, Shaw, Mike Williams, Joyce, Hughes, Dix, Riley (Evans 72’), Marc Williams, Owen (Thomas 79’), Buckley (Dawson 89’)

Goliau: Mike Williams 6’, Riley 38’, Buckley 71’

Cardiau Melyn: Riley 67’, Hughes 83’, Joyce 90’

.

Torf: 282