Boreham Wood 0–1 Wrecsam              
                                        

Roedd gôl John Rooney yn ddigon i Wrecsam wrth iddynt guro Boreham Wood ar Meadow Park yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn.

Sean Newton a ddaeth agosaf i’r Dreigiau yn yr hanner cyntaf ond cafodd ei beniad ei arbed yn dda gan Grant Smith.

Wedi’r hanner cyntaf di sgôr fe roddodd Rooney yr ymwelwyr o ogledd Cymru ar y blaen toc cyn yr awr, yn gwyro peniad arall gan Newton heibio i’r golwr y tro hwn.

Profodd y gôl honno’n ddigon wrth i’r Dreigiau gadw llechen lân yn y cefn. Mae’r fuddgoliaeth yn rhoi Wrecsam yn unfed ar ddeg yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol ac yn llacio ychydig ar y pwysau a oedd ar y rheolwr, Gary Mills.

.

Boreham Wood

Tîm: Smith, Nunn, Ilesanmi, Devera, Paine, Kuhl (Lucas 66’), Clifford, Andrade, Davis, Jeffrey, Balanta

.

Wrecsam

Tîm: Jalal, J. Evans, Tilt, Edwards, Newton, Rooney, Bencherif, Rutherford, Carrington, R. Evans, Harvey

Gôl: Rooney 57’

Cardiau Melyn: Edwards 50’, Harvey 90’

.

Torf: 458