Scarlets 13–23 Munster
Cafodd y Scarlets ddechrau siomedig i’r tymor newydd yn y Guinness Pro12 wrth golli gartref yn erbyn Munster brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd y Gwyddelod ddau gais hanner cyntaf wrth sefydlu saith pwynt o fanatis ar yr egwyl ar Barc y Scarlets, ac fe brofodd hynny’n ddigon diolch i ail hanner digon di fflach.
Hanner Cyntaf
Y Scarlets a gafodd y dechrau gorau i’r gêm ond llwyddodd tacl Simon Zebo i atal Steff Evans rhag sgorio cais cynnar a methodd Rhys Patchell gyda chynnig at y pyst.
Dechreuodd yr ymwelwyr setlo wedi hynny a hwy a aeth ar y blaen wedi deunaw munud pan diriodd James Cronin y bêl mewn pentwr o gyrff wedi sgarmes symudol.
Daeth ail gais y Gwyddelod wedi hanner awr o chwarae pan fanteisiodd yr asgellwr, Ronan O’Mahony, ar fwlch mawr yn amddiffyn y Scarlets i groesi.
Roedd Patchell wedi cicio ei dri phwynt cyntaf i’w dîm newydd rhwng dau gais Munster ond llwyddodd maswr yr ymwelwyr, Tyler Bleyndaal, gyda’i ddau drosiad ef hefyd ac roedd ei dîm un pwynt ar ddeg ar y blaen ddeg munud cyn yr egwyl.
Tarodd y Scarlets yn ôl gyda chais i Gareth Davies, y mewnwr yn fwy effro na neb i sgorio wedi cic gosb gyflym.
Ychwanegodd Patchell y trosiad ond llwyddodd Bleyndaal gyda chic gosb hefyd, 10-17 y sgôr wrth droi.
Ail Hanner
Cic gosb o droed Patchell a oedd pwyntiau cyntaf yr ail hanner ond ar wahân i ymddangosiad Jonathan Davies oddi ar y fainc doedd dim llawer i gyffroi torf Parc y Scarlets wedi’r egwyl.
Adferodd Bleyndaal y saith pwynt o fantais toc cyn yr awr cyn ychwanegu un arall i ymestyn y bwlch iddeg pwynt chwarter awr o’r diwedd.
Ceisiodd Patchell adfer pwynt bonws i’r tîm cartref gyda chynnig hwyr at y pyst ond methu a oedd ei hanes.
.
Scarlets
Cais: Gareth Davies 31’
Trosiad: Rhys Patchell 32’
Ciciau Cosb: Rhys Patchell 26’, 47’
.
Munster
Ceisiau: James Cronin 18’, Ronan O’Mahony 29’
Trosiadau: Tyler Bleyndaal 18’, 30’
Ciciau Cosb: Tyler Bleyndaal 37’, 53’, 65’