Casnewydd G–G Barnet (Gohirio ar hanner amser oherwydd glaw)  
     

Rhoddwyd y gorau i gêm Ail Adran Casnewydd yn erbyn Barnet ar ddechrau’r ail hanner brynhawn Sadwrn oherwydd cyflwr y cae ar Rodney Parade.

Wedi glaw trwm trwy gydol yr hanner cyntaf yn y de ddwyrain, methwyd ag adfer y cae yn ystod yr egwyl a gwnaeth y dyfarnwr, Graham Salisbury, y penderfyniad i ddod â’r gêm i ben cyn dechrau’r ail gyfnod.

Efallai y bydd hynny’n newyddion da i Gasnewydd gan eu bod ar ei hôl hi ar y pryd diolch i gôl gynnar John Akinde i’r ymwelwyr wedi dim ond 23 eiliad o chwarae. Fydd y canlyniad hwnnw ddim yn sefyll a bydd rhaid ail chwarae’r gêm rhywbryd eto.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Bignot, Jones, Bennett, Butler, Rigg, Labadie, Randall, Compton, Grego-Cox, Parkin

Cerdyn Melyn: Bignot 12’

.

Barnet

Tîm: Vickers, Vihete, N’Gala, Nelson, Johnson, Nicholls, Togwell, Weston, Tomlinson, Akpa-Akpro, Akinde

Gôl: Akinde 1’

Cerdyn Melyn: Weston 29’