Marcus Evans a'i fab, y cricedwr Laurie
Mae’r cyn-asgellwr Marcus Evans wedi dweud wrth Golwg360 fod cyn-glo Abertawe a Chymru, Richard Moriarty wedi torri ei drwyn pan chwaraeodd Clwb Rygbi Blackheath yn erbyn Abertawe yn San Helen yn 1984.

Fe ddychwelodd Evans i’r cae hanesyddol ar lan y môr yr wythnos hon i wylio’i fab, y cricedwr Laurie, a Swydd Northampton yn curo Morgannwg yn y Bencampwriaeth.

Ond fe rannodd un o’i brofiadau mwyaf poenus gyda Golwg360 yn ystod ei ymweliad diweddaraf.

Roedd tîm Abertawe y diwrnod hwnnw’n frith o gewri rygbi Cymru – Arthur Emyr, Aled Williams, Stuart Evans a’r anfarwol Richard ‘Dick’ Moriarty.

Meddai Marcus, “Yn 1984, wnaethon ni chwarae yn erbyn Abertawe ac fe wnes i dorri ‘nhrwyn. Dw i o hyd yn meddwl mai Richard Moriarty oedd e.

“Wnaethon nhw gicio dros y top, es i nôl a chasglu’r bêl. Ges i fy amgylchynu gan reng ôl Abertawe a dod o ’na wedi torri ’nhrwyn, a daethon nhw allan gyda’r bêl.”

Un digwyddiad o blith nifer oedd hwn. Yn y lein, meddai Evans, gwnaeth y ddau chwaraewr yn yr ail reng “lanio rywsut ar wastad eu cefn” yn dilyn gweithred amheus y mae Evans yn ei galw’n “groeso i Abertawe”.

Gwrthwynebydd Evans ar yr asgell y diwrnod hwnnw oedd Mark Titley, un a fu’n bartner iddo yng nghlwb Cymry Llundain. Ond fe sylweddolod yn gyflym nad oedd y bartneriaeth honno wedi’i baratoi’n ddigonol am yr her o fynd ben-ben â fe.

“Ar y trên ar y ffordd i lawr, a finne ddim yr amddiffynnwr gorau yn y byd, fe ddywedon nhw wrtha’i, ‘Beth bynnag wyt ti’n gwneud, paid cael dy ddal tu fewn i ysgwydd Mark Titley’.

“Sgrym i Abertawe ddaeth gyntaf ac fe wnaeth Dacey basio i Hopkins – dwy bas dros ben dau ddyn – Dacey i Hopkins i Titley, roedd hwnnw eisoes tu fas i fi ac fe sgoriodd e o dan y pyst. Doedd fy nghyd-chwaraewyr ddim yn blesd, ar ôl rhoi pregeth i fi am 45 munud ar sut i amddiffyn o’r asgell!”

Evans y mab

Mae gan Evans y mab, fodd bynnag, atgofion melys o chwarae ar y tir Cymreig sanctaidd, ar ôl bod yn aelod o dîm criced Malden Wanderers yn erbyn Abertawe, ac o dîm Swydd Warwick yn erbyn Morgannwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Ry’n ni wedi treulio cryn dipyn o amser yma yn y gorffennol. Dw i wedi chwarae i Malden Wanderers yma yn y gwpan. Fe chwaraeon ni yn eu herbyn nhw mewn gêm wyth olaf ac ennill, ac yna fe wnaethon ni [Swydd Warwick] ennill gêm undydd yma sawl blwyddyn yn ôl [gyda Swydd Warwick yng nghwpan Royal London yn erbyn Morgannwg yn 2014].”

Ac fe chwaraeodd y tad Marcus ran fach ac annisgwyl yn yr ail o’r gemau hynny, ar ôl penderfynu cynnig gair o gyngor i gapten Swydd Warwick, Varun Chopra, ar ôl bod yn gwylio Laurie yn chwarae yn San Helen i Malden Wanderers.

“Pan ddeuai’r llanw i mewn, byddai’r bêl yn dechrau gwyro, ac roedd hynny’n rhan o wybodaeth y bobol leol. Dw i’n meddwl bod Abertawe wedi gwahodd Malden Wanderers i fatio. Roedd yna wahaniaeth sylweddol pan oedd y llanw i mewn o’i gymharu â phan fyddai mas.

“Felly pan ddaeth Swydd Warwick i lawr am y gêm wyth olaf, fe ddywedais i wrth Varun Chopra, oedd yn arfer rhannu fflat gyda Laurie, ‘Os wyt ti’n galw’n gywir, rhaid i ti edrych ar y llanw’. Fe wnaethon ni drio ffeindio mas pryd fyddai’r llanw’n dod i mewn. Wnaethon ni fowlio’n gyntaf, a wnaeth y bêl ddim gwyro o gwbl drwy’r dydd! Roedd yn fflat fel pancos!

“Felly ro’n i’n eistedd yna’n meddwl ‘O diawch, dw i wedi dylanwadu ar y blincin penderfyniad yma ac mae’n drychinebus!’ Ond llwyddodd Swydd Warwick i grafu buddugoliaeth yn y pen draw!”

Rygbi – a Chymru – yn y gwaed

Mae gwreiddiau’r teulu Evans yng Nghymru. Mae gwreiddiau tad Marcus ym Maesteg. Fel y dywed Laurie, mae ganddyn nhw berthnasau “yn cuddio rywle yn y cymoedd”.

Roedd Laurie yn arfer bod yn aelod o academi’r Harlequins, yn fewnwr ochr yn ochr â Danny Cipriani. Ond fe ddaeth ei obeithion o gael gyrfa gyda’r bêl hirgron i ben gyda sawl anaf i’w ysgwydd.

Byddai cae’r Oval, fodd bynnag, yn rhan bwysig o’r bennod nesaf yn ei yrfa ym myd y campau, ar ôl mentro i’r byd criced gyda Surrey yn 2005.

Fel yr eglura Laurie, “Yn tyfu i fyny, byddwn i’n mynd gyda ‘nhad bob dydd Sadwrn, a byddwn i’n rhedeg mas i’r maswr gyda’r ‘tee’ cicio, ac fe chwaraeodd fy nhad yn Twickenham i Blackheath yn y Middlesex Sevens am sawl blwyddyn. Fe wnes i dyfu i fyny’n chwarae rygbi ac ro’n i wrth fy modd.

“Dim ond yn ddiweddarach yn yr ysgol y gwnes i wir fwynhau criced a dechrau ei gymryd e o ddifri. Fe wnes i ddatgymalu fy ysgwydd, oedd yn golygu na fyddwn i’n gallu gwneud dim ond batio, felly wnes i fynd ati i ddysgu’r dechneg.”

Fe fydd ei dad, mae’n siŵr, yn gadael San Helen y tro hwn ag atgofion melysach nag yn 1984, ar ôl gwylio Laurie yn taro 74 i Swydd Northampton (fe sgoriodd e 73 yn yr ail fatiad hefyd), yn eu buddugoliaeth dros y dyddiau diwethaf.